Enghraifft o'r canlynol | cyfres deledu |
---|---|
Crëwr | Brian Yorkey |
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dod i'r brig | 2017 |
Dod i ben | 2020 |
Dechreuwyd | 31 Mawrth 2017 |
Daeth i ben | 5 Mehefin 2020 |
Genre | drama bobl-ifanc, cyfres am bobl ifanc, cyfres deledu sy'n seiliedig ar nofel, coming-of-age television program |
Yn cynnwys | 13 Reasons Why, season 1, 13 Reasons Why, season 2, 13 Reasons Why, season 3, 13 Reasons Why, season 4 |
Lleoliad y gwaith | Califfornia |
Cwmni cynhyrchu | Anonymous Content |
Cyfansoddwr | Brendan Angelides |
Dosbarthydd | Netflix |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Gwefan | https://www.netflix.com/title/80117470 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfres ddrama ar-lein yw 13 Reasons Why (ysgrifennir ar-sgrin fel Th1rteen R3asons Why) sy'n seiliedig ar y nofel a gyhoeddwyd yn 2007 gan Jay Asher ac addaswyd gan Brian Yorkey i Netflix[1]. Mae'r gyfres yn dilyn myfyrwr, Clay Jensen, a'i ffrind Hannah Baker, merch a laddodd ei hun ar ôl dioddef cyfres o amgylchiadau digalon a achoswyd gan rai unigolion yn ei hysgol. Ceir bocs o dapiau casét yn manylu'r 13 rheswm am ei hunanladdiad.
Cynhwysa'r tymor cyntaf o 13 o benodau.[2][3] Cynhyrchwyd y gyfres gan July Moon Productions, Kicked to the Curb Productions, Anonymous Content a Paramount Television. Yn wreiddiol, roedd yn mynd i fod yn ffilm i'w darlledu gan Universal Pictures gyda Selena Gomez yn y prif rôl, ond mabwysiadwyd y cynhyrchiad gan Netflix yn 2015 gyda Gomez fel cynhyrchydd gweithredol. Rhyddhawyd y tymor cyntaf a'r bennod arbennig, 13 Reasons Why: Beyond the Reasons, ar Netflix ar yr 31 Mawrth 2017.
Mae'r gyfres wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol o feirniaid a chynulleidfaoedd, sydd wedi canmol ei thestun a chymeriadau, yn enwedig y ddau actor arweiniol, Dylan Minnette a Katherine Langford. Mae hefyd wedi denu dadl o ganlyniad i'w phortread graffig o faterion sensitif sef hunanladdiad a thrais rhywiol, yn ogystal â chynnwys aeddfed arall. Ym mis Mai o 2017, cyhoeddwyd y bydd tymor arall yn cael ei ddarlledu yn 2018.[4]
Mae Clay Jensen yn cyrraedd ei dŷ ac yn darganfod bocs dirgel tu fas iddo. O'i fewn, mae e'n darganfod saith casét dau-ochrog a recordwyd gan Hannah Baker, ei ffrind agos, a laddodd ei hun rhyw ddwy wythnos yn gynharach. Ar y tapiau, mae Hannah yn datgelu dyddiadur llafar torcalonnus ac yn manylu'r 13 rheswm a wthiodd iddi ddiweddu ei bywyd. Mae ei chyfarwyddiadau yn glir: un o'r rhesymau am ei hunanladdiad ydy pob person a dderbyna'r bocs. Ar ôl i bob person wrando ar y tapiau, mae'n rhaid iddynt basio'r pecyn ymlaen i'r derbynnydd nesaf. Pe bai rhywun beidio â dilyn y cyfarwyddiadau, wedyn caiff set gwahanol o dapiau ei rhyddau i'r cyhoedd. Cyfeirir pob tâp i berson penodol yn ei hysgol ac yn manylu eu cyfraniad at ei hunanladdiad yn y pen draw. [5]
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|access-date=
(help)