A Chorus Line | |
Cerdyn ffenestr y sioe wreiddiol ar Broadway | |
---|---|
Cerddoriaeth | Marvin Hamlisch |
Geiriau | Edward Kleban |
Llyfr | James Kirkwood Nicholas Dante |
Cynhyrchiad | 1975 Oddi-ar Broadway 1975 Broadway 1976 West End 1977 Sydney 2006 San Francisco 2006 Adfywiad Broadway 2006 San Juan 2007 Belgrade 2008 Taith yr Unol Daleithiau |
Gwobrau | Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau Gwobr Tony am y Llyfr Gorau Gwobr Tony am y Sgôr Gorau Gwobr Pulitzer 1976 am Ddrama Gwobr Olivier am y Sioe Gerdd Orau |
Sioe gerdd 1975 ydy A Chorus Line, am un deg saith o ddawnswyr Broadway mewn clyweliad am ran yn y llinell gorws. Ysgrifennwyd y llyfr gan James Kirkwood, Jr. a Nicholas Dante, geiriau'r caneuon gan Edward Kleban a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Marvin Hamlisch.
Am fod 19 o brif gymeriadau, caiff y sioe ei lleoli ar lwyfan gwag yn un o theatrau Broadway, yn ystod clywediad am sioe gerdd. Dengys y sioe gipolwg o bersonoliaethau'r perfformwyr a'u coreograffwr, wrth iddynt ddisgrifio'r digwyddiadau sydd wedi dylanwadu ar eu bywydau ac ar eu penderfyniad i fod yn ddawnswyr.
Roedd y cynhyrchiad Broadway gwreiddiol, a gyfarwyddwyd a choreograffwyd gan Michael Bennett yn llwyddiant ysgubol nas gwelwyd ei fath o'r blaen, a derbyniodd ddeuddeg enwebiad am Wobr Tony, gan ennill naw ohonynt yn ogystal â'r Wobr Pulitzer am Ddrama ym 1976. Rhedodd y sioe am 6,137 o berfformiadau. Mae'r sioe wedi cael ei chynhyrchu'n llwyddiannus ledled y byd droen, a dychwelodd i Broadway yn 2006.