Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | John le Carré |
Cyhoeddwr | Gollancz |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1962 |
Genre | ffuglen dirgelwch, nofel drosedd |
Cyfres | cyfres George Smiley |
Rhagflaenwyd gan | Call for the Dead |
Olynwyd gan | The Spy Who Came in from the Cold |
Cymeriadau | George Smiley |
Lleoliad cyhoeddi | y Deyrnas Unedig |
Lleoliad y gwaith | Dorset |
Ail nofel John le Carré yw A Murder of Quality, a gyhoeddwyd ym 1962. Mae'n cynnwys yr ysbïwr George Smiley, yr enwocaf o gymeriadau le Carré, er nad oes thema ysbïo i'r nofel hon; yn hytrach nofel ddirgelwch yw hi. Lleolir yn rhannol mewn ysgol fonedd Seisnig ystrydebol o'r enw Carne College. Mae rhai yn credu y cafodd Carne ei ysbrydoli gan Ysgol Sherborne, hen ysgol yr awdur, ond gwada le Carré ei fod yn seiliedig ar unrhyw sefydliad penodol.