Math | abaty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Abaty Cwm-hir |
Sir | Abaty Cwm-hir |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 249.1 metr |
Cyfesurynnau | 52.3299°N 3.38698°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | RD012 |
Abaty yn perthyn i Urdd y Sistersiaid oedd Abaty Cwm-hir, neu Abaty Cwm Hir. Saif i'r gogledd o dref Llandrindod ym Mhowys.
Sefydlwyd y fynachlog yn 1143, a chafodd ei hail-sefydlu gan fynachod o Abaty Hendy-gwyn yn 1176. Sefydlwyd Abaty Cymer gan fynachod oddi yma yn 1198. Cafodd nawdd Llywelyn Fawr, ac mae eglwys yr abaty y fwyaf yng Nghymru, 75 medr o hyd. Claddwyd corff Llywelyn ap Gruffudd yma wedi ei ladd yng Nghilmeri yn Rhagfyr, 1282.
Erbyn 1381, dim ond wyth mynach oedd yn weddill yma, a dinistriwyd yr abaty yn rhannol yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr.
Cafwyd peth cloddio mor bell yn ôl â'r 1820au a'r 1890au. Bu nifer o archwiliadau'n ddiweddar gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, gan gychwyn yn 1988.
Mae Abaty Cwm-hir hefyd yn Gymuned.