Abu al-Faraj al-Isfahani | |
---|---|
Ganwyd | 897 Isfahan |
Bu farw | Baghdad |
Dinasyddiaeth | Abassiaid |
Galwedigaeth | bardd, hanesydd, llenor, cerddor, llenor |
Adnabyddus am | Kitab al-Aghani |
Roedd Abu al-Faraj al-Isfahani, neu Abu-l-Faraj neu `Ali ibn al-Husayn ul-Isbahani (897-967) yn ysgolhaig o dras Arabaidd a aned yn Iran (Persia). Roedd yn perthyn i lwyth y Quraysh ac yn ddisgynnydd uniogyrchol i'r caliph Umayyad olaf, Marwan II. Roedd ganddo felly gysylltiad â rheolwyr Umayyad de Sbaen, ac ymddengys iddo lythyru â nhw ac anfon rhai o'i weithiau iddynt. Ei waith enwocaf yw'r flodeugerdd Kitab al-Aghani (Llyfr y Caneuon).
Fe'i ganed yn Isfahan, de-orllewin Persia, ond treuliodd ei ieuenctid yn Baghdad ac astudiodd yno. Daeth yn enwog am ei wybodaeth o hynafiaethau Arabaidd cynnar.
Treuliodd weddill ei oes mewn sawl rhan o'r byd Islamaidd, yn Aleppo (Syria) gyda'i llywodraethwr Sayf ad-Dawlah (cyflwynodd Llyfr y Caneuon iddo), yn Ray gyda'r vizier Buwayhid Ibn 'Abbad, ac mewn lleoedd eraill.
Er iddo gyfansoddi barddoniaeth, ynghyd â blodeugerdd o gerddi ar fynachlogydd Mesopotamia a'r Aifft, a llyfr achau, mae'n enwog yn bennaf am y Kitab al-Aghani.
Blodeugerdd yw Kitab al-Aghani ('Llyfr y Caneuon'), sy'n cynnwys detholiad o gerddi a chaneuon o'r cyfnodau cynharaf yn hanes llenyddiaeth Arabeg (hyd at y 9g), ynghyd â brasluniau o fywyd yr awduron a straeon amdanynt. Gododwyd y cerddi ar alawon, ond yn anffodus nid yw'n bosibl darllen y nodiant bellach. Oherwydd y manylion hanesyddol a geir ynddo, mae'r Kitab yn ffynhonnell hanesyddol bwysig. Mae'n cynnwys llawer o wybodaeth am ffordd o fyw ac arferion yr Arabiaid cynnar, ac mae'n un o'n ffynonellau pwysicaf am y cyfnod cyn-Islamaidd a blynyddoedd cynnar Islam.