Odezia atrata | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Geometridae |
Genws: | Odezia |
Rhywogaeth: | O. atrata |
Enw deuenwol | |
Odezia atrata Linnaeus, 1758 |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw adain ddu, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy adenydd du(-on); yr enw Saesneg yw Chimney Sweep, a'r enw gwyddonol yw Odezia atrata.[1][2] Mae i'w ganfod yng ngwledydd Prydain.
23–27 mm ydy lled yr adenydd ar ei fwyaf. Yn rhyfedd iawn, yn ystod y dydd mae'r gwyfyn hwn yn hedfan ac mae'n hoff o fod yn llygad yr haul. Mae i'w weld ar adain rhwng Mehefin a Gorffennaf.
Prif fwyd y siani flewog ydy Conopodium majus.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r adain ddu yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.