Adalbert Falk | |
---|---|
Ganwyd | 10 Awst 1827 Mieczków |
Bu farw | 7 Gorffennaf 1900 Hamm |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
Plaid Wleidyddol | Free Conservative Party |
Gwleidydd a gweinyddwr llywodraethol o Brwsia oedd Adalbert Falk (10 Awst 1827 – 7 Gorffennaf 1900) a wasanaethodd yn Weinidog dros Faterion Crefyddol, Addysgol a Meddygol o 1872 i 1879. Yn y swydd honno, arweiniodd y Kulturkampf, ymgyrch Otto von Bismarck i gyfyngu ar rym yr Eglwys Gatholig ym Mhrwsia. Enwir Deddfau Falk ar ei ôl.
Ganed ef ym Metschkau (bellach Mieczków, Gwlad Pwyl), yn Silesia, un o daleithiau Teyrnas Prwsia.
Gwasanaethodd Falk yn llywydd y Llys Apêl yn Hamm, yn nhalaith Westfalen, o 1882 hyd at ddiwedd ei oes. Bu farw yn Hamm yn 72 oed.[1]