Enghraifft o'r canlynol | Damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, constructivism |
---|---|
Yn cynnwys | Feminist constructivism |
Damcaniaeth ym maes cysylltiadau rhyngwladol yw adeileddaeth sydd yn pwysleisio natur adeiladol, neu ryngymwybodolrwydd, y system ryngwladol ac yn mynnu mai lluniadau hanesyddol a chymdeithasol ydy ei phrif nodweddion yn hytrach na gwirioneddau anochel o ganlyniad i natur ddynol. Caiff adeiliadau cymdeithasol, syniadau, normau, ac hunaniaethau eu hystyried yn hollbwysig wrth siapio ymddygiad gwladwriaethau a gweithredyddion eraill yn y system ryngwladol. Yn wahanol i ddamcaniaethau traddodiadol o gysylltiadau rhyngwladol, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ffactorau materol megis nerth milwrol neu rym economaidd, mae adeileddaeth yn dadlau mai agweddau hanfodol ydy credoau, canfyddiadau, ac hunaniaethau gweithredyddion wrth ddeall eu gweithredoedd a'u rhyngweithiadau.
Trafodir cysylltiadau rhyngwladol o'r safbwynt adeileddol yn nhermau gweithredyddion (gan gynnwys gwladwriaethau, sefydliadau goruwchgenedlaethol a rhynglywodraethol, sefydliadau anlywodraethol, cwmnïau amlwladol, a mudiadau trawswladol) a "sefydliadau" sylfaenol y system ryngwladol—hynny yw, nid yn unig cysyniadau ac arferion megis y gyfraith ryngwladol, diplomyddiaeth, a sofraniaeth, ond hefyd cyfundrefnau rhyngwladol cyfoes. Yn ôl yr adeileddwyr, mae gan sefydliadau rhyngwladol o'r fath swyddogaethau rheoliadol a chyfansoddol: mae normau rheoliadol y sefydliadau yn gosod rheolau a safonau sylfaenol o ymddwyn, ac mae normau cyfansoddol yn diffinio gwahanol ymddygiadau ac yn pennu rhesymau dros weithredoedd ac yn priodoli ystyron iddynt. Yn aml, cymharir normau cyfansoddol â rheolau gêm, sy'n galluogi'r chwaraewyr (gweithredyddion rhyngwladol) i gymryd rhan yn y gêm ac ymateb yn bwrpasol i weithredoedd ei gilydd.
Ymddangosodd adeileddaeth yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol yn y 1980au, ac enillodd ei haeddiant yn sgil diwedd y Rhyfel Oer.[1] Daeth i herio'r ddadl ddeuol rhwng neo-realaeth a neo-ryddfrydiaeth a oedd yn nodi'r maes yn niwedd yr 20g.[2] Mae damcaniaethau adeileddol yn ymwneud â'r effeithiau sydd gan syniadau ar y strwythur ryngwladol, sut mae'r strwythur honno yn pennu diddordebau gwladwriaethau, a'r moddion mae gwladwriaethau a gweithredyddion anwladwriaethol yn cynnal at atgynhyrchu'r strwythurau.[3] Prif elfen adeileddaeth ydy'r gred taw syniadau dylanwadol, gwerthoedd cyfunol, diwylliant, ac hunaniaethau cymdeithasol sydd yn siapio hynt a helynt, trefn ac anhrefn gwleidyddiaeth ryngwladol. Dadleuir taw peth gwneud yw'r realiti ryngwladol, a bennir gan strwythurau cymdeithasol a gwybyddol sydd yn rhoi ystyr i'r byd materol.[4] Ymddangosodd y ddamcaniaeth yn sgil dadleuon ynghylch y dull gwyddonol ym maes cysylltiadau rhyngwladol a'r rhan sydd gan damcaniaethau wrth greu a siapio grym gwleidyddol rhyngwladol.[5] Dywed Emanuel Adler bod adeileddaeth yn meddu'r tir canol rhwng damcaniaethau rhesymolaidd a dehongliadol.[4]