Adelaide Sophia Claxton | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mai 1841 Fitzroy Square |
Bu farw | 29 Awst 1927 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | arlunydd, darlunydd, dyfeisiwr |
Tad | Marshall Claxton |
Roedd Adelaide Sophia Claxton (10 Mai 1841 – 29 Awst 1927)[1] yn beintiwr, darlunydd a dyfeisydd o Loegr. Hi oedd un o'r artistiaid benywaidd cyntaf ym Mhrydain i ennill rhan bwysig o'i fywoliaeth trwy'r wasg fasnachol, gan werthu darluniau dychanol a chomig i fwy na hanner dwsin o gyfnodolion.
Ganwyd Claxton yn Llundain, yn un o ddwy ferch ddawnus yr arlunydd Prydeinig Marshall Claxton; Dilynodd Adelaide a'i chwaer Florence eu tad i ddod yn beintwyr. Fodd bynnag, nid oedd hi'n rhannu blas ei thad am baentiadau olew mawr. Astudiodd gelf yn Ysgol Cary yn ardal Bloomsbury yn Llundain, lle dechreuodd ganolbwyntio ar baentio ffigur mewn dyfrlliw.
Ym 1850, teithiodd gyda'i theulu i Awstralia, lle bu'n aros am bedair blynedd cyn dychwelyd i Loegr trwy Kolkata, India.
Mae paentiadau Claxton yn cyfuno golygfeydd o fywyd domestig gydag elfennau llenyddol neu ffantasi fel ysbrydion a breuddwydion. Dechreuodd arddangos ei gwaith ar ddiwedd y 1850au yng Nghymdeithas yr Artistiaid Benywaidd (Society of Women Artists). Rhwng y 1850au a 1896 arddangoswyd sawl enghraifft o'i gwaith yn Academi Frenhinol y Celfyddydau, Academi Frenhinol Hibernaidd, a Chymdeithas Frenhinol Artistiaid Prydain, yn ogystal â Chymdeithas yr Artistiaid Benywaidd. Roedd un o'i gweithiau, A Midsummer Night's Dream at Hampton Court, mor boblogaidd ei bod hi wedi paentio 5 copi ohoni; peintiodd un arall, Little Nell, 13 gwaith. Mae Wonderland, darlun sy'n dangos merch fach yn darllen straeon gan y Brodyr Grimm wrth oleuadau cannwyll, wedi cael ei atgynhyrchu nifer o weithiau. Seiliodd yr arlunydd Saesneg, Walter Sickert, ei baentiad olew She Was the Belle of the Ball (After Adelaide Claxton) ar un o'i gweithiau.
Enillodd Claxton ei bywoliaeth yn rhannol trwy ei phaentiadau ac yn rhannol trwy werthu darluniau comig a lluniau dychanol o'r gymdeithas bonheddig i gylchgronau poblogaidd fel Bow Bells, The Illustrated London News, London Society, Judy (lle roedd hi'n un o'r prif ddarlunwyr),[2] a nifer o gyhoeddiadau eraill. Hi oedd un o'r artistiaid benywaidd cyntaf yng ngwledydd Prydain i weithio'n rheolaidd yn y farchnad gylchgrawn, lle cafodd ei thalu rhwng £ 2-£7 am bob darlun. Mor gynnar â 1859, ymddangosodd ei pheintiad The Standard-Carrier ar glawr blaen yr Illustrated Times[3]. Roedd Claxton hefyd yn awdur ddau lyfr darluniadol, A Shillingsworth of Sugar-Plums (1867) a Brainy Odds and Ends (1904).[4]
Mae gan archif House of Fraser, Prifysgol Glasgow casgliad o waith hysbysebu Adelaide Claxton. Mae peth o'i gwaith darluniadol wedi ei chadw yng nghasgliad Oriel Gelf Walker, Lerpwl, a sefydliadau celfyddydol eraill.[5]
Ym 1874, priododd Claxton George Gordon Turner, achlysur a ddaeth a'i gyrfa fel arlunydd i ben. Ymgartrefodd y cwpl yn Chiswick a bu iddynt fab. Trodd Claxton ei llaw at ddyfeisio, ac yn y 1890au cofrestrodd sawl patent o dan ei enw priod, Adelaide Sophia Turner. Un o'r rhain oedd ar gyfer "Bagl cesail ar gyfer gorffwysiadau gwely a chefnau cadair". Roedd un arall ar gyfer cap clust ar gyfer gwirio clustiau plant oedd yn sticio allan yn ormodol.
Roedd Claxton yn aelod o bwyllgor Y Gymdeithas Gwisg Synhwyrol, oedd yn ymgyrchu yn erbyn gwisgoedd merched oedd yn anghyffyrddus ac yn andwyol i iechyd. Gan ddefnyddio ei ddiddordeb mewn diwygio gwisgoedd merched a'r wybodaeth dechnegol chafodd trwy ddarlunio hysbysebion staesiau dyfeisiodd y Claxton Classical Corset a oedd yn defnyddio elastig yn lle esgyrn i roi mwy o ryddid symud i ferched.
Wedi marwolaeth ei gŵr bu Claxton yn byw yn yr Artists' General Benevolent Institution Home yn Earls Court, lle fu'n byw hyd ychydig cyn ei marwolaeth. Bu farw yn 28 Marloes Road, Kensington, Llundain.