Adem Demaçi | |
---|---|
Ganwyd | 26 Chwefror 1936 Podujeva |
Bu farw | 26 Gorffennaf 2018 Prishtina |
Dinasyddiaeth | Albania |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, amddiffynnwr hawliau dynol |
Gwobr/au | Gwobr Sakharov, Order of the National Flag |
llofnod | |
Roedd Adem Demaçi (26 Chwefror 1936 - 26 Gorffennaf 2018) yn wleidydd, llenor ac ymgyrchydd gwleidyddol dros hawliau iaith a chenedlaethol Albaniaid Cosofo.
Astudiodd Demaçi lenyddiaeth, cyfraith ac addysg ym Mhrifysgol Prishtina, Belgrâd, a Skopje yn y drefn honno yn yr hen Iwgoslafia. Yn y 1950au, cyhoeddodd nifer o straeon byrion gyda sylwebaeth gymdeithasol nodedig yn y cylchgrawn Albaneg, Jeta e re ('Bywyd Newydd'), yn ogystal â nofel 1958 o'r enw Gjarpijt e gjakut ('Nadroedd Gwaed') yn archwilio vendettas gwaed yn Cosofo ac Albania. Daeth yr ail waith ag enwogrwydd llenyddol iddo.
Arestiwyd Demaçi gyntaf am ei wrthwynebiad i lywodraeth awdurdodol rheolwr comiwnyddol Iwgoslafia, Josip Broz Tito ym 1958, gan dreilio tair blynedd yn y carchar. Carcharwyd ef eto rhwng 1964-1974 a 1975-1990. Fe'i rhyddhawyd o'r carchar gan lywydd newydd Serbia, Slobodan Milošević.[1]
Yn 2010 derbyniodd anrhydedd Arwr Cosofo.[2]
Ar ôl ei ryddhau o'r carchar, bu'n Gadeirydd y Cyngor dros Amddiffyn Hawliau Dynol a Rhyddidau Pobl Cosofo rhwng 1991 a 1995. Yn ystod y cyfnod hyn, er bod Slofenia, Corasia a Bosnia Herzogovina, a Macedonia wedi torri'n rhydd o Iwgoslafia, roedd Cosofo dal yn dalaith o fewn i Serbia ac hawliau'r Albaniaid brodorol wedi eu cwtogi. Bu hefyd yn bennaeth olygydd Zëri, cylchgrawn yn Prishtina, rhwng 1991 a 1993.[1][3] Yn 1991, dyfarnwyd Gwobr Sakharov Senedd Ewrop ar gyfer Rhyddid Meddwl iddo.[1]
Ym 1996, symudodd Demaçi i wleidyddiaeth, gan ddisodli Bajram Kosumi fel llywydd Plaid Seneddol Kosovo;[1] Daeth Kosumi yn is-lywydd iddo. Yn ystod yr amser hwn, cynigiodd gydffederasiwn o wladwriaethau yn cynnwys Kosovo, Montenegro, a Serbia a elwir yn "Balkania". Rhoddodd ei gofnod carchar iddo gredadwyedd ymhlith Kosovars, ond roedd ei ddaliadaeth mewn arweinyddiaeth y blaid wedi'i farcio gan ffactorau a diffyg gweithredu.[3]
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ymunodd â Byddin Rhyddid Cosofo (KLA yn Saesneg, UÇK yn Albaneg), gan wasanaethu fel pennaeth ei adain wleidyddol.[1] Mewn cyfweliad yn 1998 gyda'r New York Times, gwrthododd gondemnio defnydd trais yr UÇK, gan ddweud "dydy'r llwybr di-drais heb ennill dim i ni. Mae gan bobl sy'n byw o dan y math hwn o orthrwm yr hawl i wrthsefyll."[4] Ym 1999, ymddiswyddodd o'r UÇK ar ôl iddo fynychu sgyrsiau heddwch yn Ffrainc, gan feirniadu'r fargen arfaethedig am beidio â gwarantu annibyniaeth Kosovo. Nododd y ffynonellau fod Demaçi wedi ymddieithrio oddi ar arweinyddiaeth iau UÇK, mwy pragmatig, gan ei adael "yn wynebu penderfyniad i neidio neu aros i gael ei gwthio".[5]
Er i wraig Demaçi adael Kosovo cyn y rhyfel, fe arhosodd ef yn ninas Pristina gyda'i chwaer 70 oed yn ystod holl gyfnod Rhyfel Annibyniaeth Cosofo.[1][6] Roedd yn feirniadol o Ibrahim Rugova ac arweinwyr Albaniaidd eraill a oedd yn ffoi o'r gwrthdaro, gan ddweud eu bod yn colli digwyddiad hanesyddol pwysig.[7] Arestiwyd Demaçi ddwywaith gan filwyr Iwgoslafaidd ond fe'i driniwyd â dyngarwch ganddynt.[6]
Yn dilyn y rhyfel, bu Demaçi yn gyfarwyddwr Radio a Theledu Cosofo tan fis Ionawr 2004. Bu'n parhau i fod yn weithgar mewn gwleidyddiaeth, yn gysylltiedig â Albin Kurti, pennaeth mudiad cenedlaetholaidd asgell chwith, Vetëvendosje!.[1]
Yn 82 oed, bu farw Demaçi ar 26 Gorffennaf 2018 yn Prishtina, Cosofo.