Adolfo de la Huerta | |
---|---|
Portread swyddogol yr Arlywydd Adolfo de la Huerta, mewn gwisg sifil gyda'r gwregys arlywyddol (Dinas Mecsico, 1920) | |
Ganwyd | 26 Mai 1881 Guaymas |
Bu farw | 9 Gorffennaf 1955 Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | Arlywydd Mecsico, gweinidog |
Plaid Wleidyddol | Liberal Constitutionalist Party |
Gwleidydd o Fecsico oedd Adolfo de la Huerta (26 Mai 1881 – 9 Gorffennaf 1955) a fu'n arlywydd dros dro Mecsico trwy gydol y chwe mis o Fehefin i Dachwedd 1920.[1]
Ganed yn Hermosillo, Sonora, Mecsico. Gweithiodd mewn sawl swydd cyn iddo ddechrau ymgyrchu yn erbyn llywodraeth yr unben Porfirio Díaz ym 1908. Gwasanaethodd yn llywodraethwr Sonora o 1917 i 1920, ar ddiwedd Chwyldro Mecsico. Ymgynghreiriodd â gwleidyddion eraill o Sonora, Álvaro Obregón a Plutarco Elías Calles i ddymchwel yr Arlywydd Venustiano Carranza ym Mai 1920. Gwasanaethodd de la Huerta yn arlywydd dros dro Mecsico o 1 Mehefin i 30 Tachwedd 1920, gan ildio'r arlywyddiaeth i enillydd yr etholiad, Obregón, ar 1 Hydref.[2]
Gwasanaethodd de la Huerta yn weinidog ariannol yn llywodraeth Obregón o 1920 i 1923. Wedi i Obregón roi ei gefnogaeth i Calles yn etholiad arlywyddol 1924, trefnwyd gwrthryfel arfog yn erbyn y llywodraeth gan de la Huerta. Rhoddwyd pen ar y gwrthryfel ac aeth de la Huerta yn alltud yn Los Angeles. Gweithiodd yn athro canu er mwyn ennill arian. Dychwelodd i Fecsico ym 1935 wedi i'r Arlywydd Lázaro Cárdenas diddymu'r cyhuddiadau yn ei erbyn, a fe'i penodwyd yn brif arolygydd yr is-genhadon. Bu farw yn Ninas Mecsico yn 74 oed.[2]