Afon Dulas (Powys)

Afon Dulas
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6001°N 3.8418°W Edit this on Wikidata
Map
Am afonydd eraill o'r un enw gweler Afon Dulas (gwahaniaethu).

Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Dulas, sy'n un o lednentydd Afon Dyfi. Mae'n llifo trwy Bowys yn bennaf ond gan orffen ei thaith yng Ngwynedd. Ei hyd yw tua 10 milltir.[1]

Prif darddle Afon Dulas yw llyn Glaslyn, tua 460 meter i fyny yn y bryniau 5 milltir i'r gogledd o gopa Pumlumon. Ar ôl llifo i gyfeiriad y gorllewin am ddwy filltir, mae afon fynyddig arall, sy'n tarddu yn y Bugeilyn tua 1.5 milltir i'r de o'r Glaslyn, yn llifo iddi. Ychydig yn is i lawr daw Afon Hengwm i lawr o'i tharddle ger Hyddgen (safle un o frwydrau mawr gwrthryfel Owain Glyndŵr) i lifo iddi. Ymleda'r afon i lifo trwy Ddyffryn Dulas.[1]

Tua milltir i'r gorllewin o bentref Aberhosan mae afon arall, sef Afon Carog (Nant Cymau) yn ymuno ag Afon Dulas. Wedyn mae'n llifo i gyfeiriad y gorllewin gydag ambell ffrwd arall yn llifo iddi cyn troi i gyfeiriad y gogledd. Mae'n llifo dan bont ar y briffordd A489 tua hanner ffordd rhwng Penegoes a Machynlleth, lle mae Afon Crewi yn llifo iddi o'r dwyrain. Ar ben ei thaith mae Afon Dulas yn llifo i Afon Dyfi ger Neuadd Dolguog, ar ôl mynd dan bont ar Reilffordd y Cambrian, rhyw filltir i'r gogledd-ddwyrain o Fachynlleth.[1]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Map OS 1:50,000 Landranger 135 Aberystwyth.