Afon Gwyrfai o Bont Cyrnant | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.124837°N 4.317878°W, 53.10653°N 4.31088°W |
Aber | Afon Menai |
Afon yn ardal Arfon, yng Ngwynedd, Cymru, yw Afon Gwyrfai. Yn Oes y Tywysogion roedd yn dynodi'r ffin rhwng dau gwmwd Cantref Arfon, sef Arfon Is-Gwyrfai ac Arfon Uwch-Gwyrfai.
Mae Afon Gwyrfai yn tarddu yn Llyn y Gadair wrth droed Mynydd Drws-y-coed, gerllaw pentref Rhyd-ddu yn Eryri. Arferai'r llenor adnabyddus T. H. Parry-Williams chwarae ar lan yr afon yn blentyn ac mae ganddo atgofion amdani mewn rhai o'i ysgrifau.
O Ryd-ddu mae'n llifo tua'r gogledd i gyrraedd Llyn Cwellyn. Mae Afon Treweunydd yn ymuno ag Afon Gwyrfai ychydig cyn iddi lifo i mewn i Lyn Cwellyn. Ar ôl llifo trwy'r llyn, mae'r afon yn llifo ymlaen tua'r gogledd mewn cwm mynyddig trwy gymunedau gwledig Salem a Betws Garmon hyd nes cyrraedd pentref Waunfawr, lle mae'n troi tua'r gorllewin. Ar ôl llifo hyd nant goediog mae'n pasio pentref Bontnewydd, a enwir ar ôl y bont reilffordd o'r 18g sy'n croesi'r afon yno ac a oedd yn teithio o chwareli copr Drws y Coed a chwareli llechi Dyffryn Nantlle i borthladd Caernarfon.[1] Mae'n cyrraedd y môr ym Mae'r Foryd ger Llanfaglan, i'r gorllewin o dref Caernarfon, ac yn arllwys ei dŵr i Afon Menai.
Ymhlith yr enwau ar rannau o'r afon oedd "Carreg Pechodau".
Gyda Llyn Cwellyn, mae Afon Gwyrfai yn Ardal Gadwraeth Arbennig.