Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Horsham, Crawley, Ardal Mole Valley, Bwrdeistref Reigate a Banstead, Bwrdeistref Elmbridge |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.4011°N 0.3392°W |
Aber | Afon Tafwys |
Llednentydd | Hookwood Common Brook |
Dalgylch | 512 cilometr sgwâr |
Hyd | 80 cilometr |
Arllwysiad | 6.64 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Afon yn Ne-ddwyrain Lloegr yw Afon Mole sy'n un o lednentydd Afon Tafwys. Mae'n tarddu yng Ngorllewin Sussex ger Maes Awyr Gatwick ac yn llifo i gyfeiriad gogledd-orllewinol trwy Surrey am 50 milltir (80 km) i ymuno ag Afon Tafwys ym Molesey gyferbyn â Mhalas Hampton Court. Mae'r afon yn rhoi ei henw ar Ardal Mole Valley sy'n ardal an-fetropolitan Surrey.
Mae'r afon yn croesi'r Twyni Gogleddol rhwng Dorking a Leatherhead, lle mae'n torri trwy'r sialc i greu dyffryn ag ochrau serth, a elwir y Mole Gap.