Afon Taf Fechan

Afon Taf Fechan
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMerthyr Tudful, Powys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7553°N 3.3963°W Edit this on Wikidata
Map

Afon yn ne-ddwyrain Cymru sy'n un o isafonydd Afon Taf yw Afon Taf Fechan.

Mae'r afon yn tarddu ym Mlaen Taf Fechan, ychydig i'r de o gopa Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog. Mae'n llifo tua'r de-ddwyrain i lifo trwy Gronfa Neuadd Uchaf a thrwy Fforest Taf Fechan i Gronfa Pentwyn ac yna Cronfa Pontsticill. Wedi gadael y gronfa, mae'n llifo tua'r de heibio pentref Pontsticill, yna'n troi tua'r de-orllewin heibio Trefechan i gyfarfod Afon Taf Fawr fymryn i'r de o bentref Cefn-coed-y-cymmer, i ffurfio Afon Taf.

Mae Llwybr Taf yn dilyn yr afon am ran helaeth o'i chwrs.

Taf Fechan a Thraphont Pont Sarn