Afuad mawr pêr Conocephalum conicum | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Marchantiales |
Teulu: | Conocephalaceae |
Genws: | Conocephalum |
Rhywogaeth: | C. conicum |
Enw deuenwol | |
Conocephalum conicum |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Afuad mawr pêr (enw gwyddonol: Conocephalum conicum; enw Saesneg: great scented liverwort).[1] O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Marchantiales, o fewn y dosbarth Marchantiopsida. Mae larfa'r gwyfyn Epimartyria pardella yn bwydo ar Afuad mawr pêr.[2]
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Mae gan C. conicum thali llydan iawn, sy'n ffurfio matiau. Gallant dyfu'n 17mm - sy'n fwy na maint y rhan fwyaf o lysiau'r afu. Mae'r tali yn arogli'n gryf iawn, ac mae ganddynt ymylon piws. Fel arfer ceir arwyneb gwyrdd tywyll, gwastad a llyfn.
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[3] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.