Agnes Charlotte Gude | |
---|---|
Ganwyd | 1 Chwefror 1863 Betws-y-coed |
Bu farw | 11 Gorffennaf 1929 Oslo |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Galwedigaeth | drafftsmon |
Tad | Hans Gude |
Mam | Betsy Gude |
Priod | Richard Scholz |
Plant | Betsy Louise Gude Scholz Agnus |
Roedd Agnes Charlotte Gude (1 Chwefror 1863 – 11 Gorffennaf 1929) yn ddarlunydd o Norwy a aned yng Nghymru.[1]
Ganwyd Gude ym Mhont y Pant, ger Dolwyddelan [nb 1] yn blentyn i Hans Gude (1825-1903) a Betsy Charlotte Juliane (née Anker 1830-1912) ei wraig. Roedd Hans Gude yn arlunydd ac yn athro yn yr Academi Gelf yn Düsseldorf. Roedd Gude wedi ennill troedle ym marchnad gelf Prydain yn y 1850au ar ôl i'w weithiau gael eu derbyn i orielau Francis Egerton, Iarll 1af Ellesmere ac Ardalydd Lansdowne. Awgrymodd deliwr celf o Loegr a chyn-fyfyriwr Gude - Mr Stiff - gallai Gude gael llwyddiant yn Lloegr (sic) pe bai yn symud i fyw i'r wlad. Yn hydref 1862 symudodd Hans Gude i Gwm Lledr, Dyffryn Conwy.[2] Tra ei fod yn aros yng Nghymru ganwyd Agnes, ei ferch. Symudodd y teulu i Karlsruhe, Baden-Württemberg,yn hwyr ym 1864.[3] Roedd brodyr a chwiorydd Agnes yn cynnwys y diplomydd Ove Gude (1853-1910), yr arlunydd Nils Gude (1859-1908) a’r arlunydd Sigrid Gude.
Derbyniodd Agnes Gude addysg dda iawn mewn paentio. Mae gweithiau ganddi yn cael eu harddangos yn Oriel Genedlaethol Norwy. Fodd bynnag, dim ond ychydig o'i gweithiau sy'n hysbys. Darluniodd y casgliad barddoniaeth Old and New Children's Songs and Rhymes gan Mathilde Wesendonck, a gyhoeddwyd ym Merlin ym 1890. Dangoswyd deuddeg o'i lluniau dyfrlliw ar gyfer y llyfr hwn yn Arddangosfa Fawr Gelf gyntaf Berlin ym 1893. Roedd y darluniau a ddylanwadwyd gan Art Nouveau yn rhan o “argraffiad ysblennydd” y llyfr plant a daethant yn eiddo i’r cleient, Wesendonck.
Roedd hi'n briod â'r arlunydd Almaenig Richard Scholz (1860–1939) rhwng 1885 a 1903. Bu iddynt dri o blant rhwng 1886 a 1888. Roedd ei merch Betsy Gude Agnus (1887-1979) hefyd yn arlunydd.[4]
Bu farw yn Oslo yn 66 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Vår Frelsers gravlund yn y ddinas.