Agnes Pochin | |
---|---|
Ganwyd | 1825 Timperley |
Bu farw | 1908 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | swffragét |
Swydd | ymgyrchydd dros hawliau merched |
Tad | George Gretton Heap |
Priod | Henry Davis Pochin |
Plant | Laura Elizabeth McLaren |
Roedd Agnes Pochin (née Heap), (25 Tachwedd 1825 – 12 Chwefror 1908)yn ymgyrchydd dros hawliau menywod.[1]
Ganwyd Agnes yn Ryefield, Timperley, Swydd Gaer, yn ferch i George Gretton Heap, gwneuthurwr, a'i wraig, Hannah, (née Lord).
Does dim cofnod iddi dderbyn unrhyw addysg ffurfiol, ond mae ei gwaith yn dangos nad oedd hi’n brin o alluoedd meddyliol.
Ym 1852 priododd Henry Davis Pochin (1824-1895) cemegydd diwydiannol llwyddiannus o Fanceinion, daeth yn ddiweddarach yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol. Bu iddynt lawer o blant, ond bu y rhan fwyaf ohonynt farw yn eu babandod. Goroesodd tri ohonynt i oedolaeth Sef Walter (1853-1867), Laura Elizabeth (1854-1933) (yn ddiweddarach, Barwnes Aberconwy), a Percival Gerald (1862-1918).
Dywedir ei bod yn ddynes fechan o gorffolaeth ond mawr o benderfyniad a chymeriad.
Ym 1855 ysgrifennodd, o dan y ffug enw Justitia, pamffled yn dwyn y teitl The Right of Women to Exercise the Elective Franchise. Dyma un o'r cyhoeddiadau cynharaf i ddadlau hawl merched i bleidleisio i ymddangos yn y 19g. Cafodd y pamffled ei ail gyhoeddi ym 1873 o dan enw Agnes Pochin. Yn y pamffled mae Agnes yn dadlau gydag egni a ffraethineb:
Pan gyflwynodd John Bright ei Mesur Diwygio i’r Senedd ym 1858 (a arweiniodd yn y pendraw i Ddeddf Diwygio 1867) bu Agnes Pochin yn ceisio, yn aflwyddiannus, i’w berswadio i gynnwys cymal ar bleidlais i ferched[3].
Er i Ddeddf Diwygio’r Senedd 1867 gwrthod rhoi’r bleidlais i ferched bu Pochin yn parhau a’i hymgyrch. Ym mis Ebrill 1868 bu yn areithio o lwyfan y Free Trade Hall ym Manceinion yn ystod y cyfarfod cyhoeddus cyntaf i ymgyrchu am bleidlais i ferched[4]. Ei gwr, a oedd yn faer Salford ar y pryd, bu’n cadeirio'r cyfarfod.
Roedd Pochin yn aelod cynnar o Gymdeithas Swffrag Merched Manceinion, ac ym 1872 daeth yn aelod o bwyllgor gwaith pwyllgor canolog y Gymdeithas Genedlaethol Dros Swffrag i Ferched a oedd newydd ei ffurfio. Roedd hi a'i gŵr yn aelodau o’r adain radical y Blaid Ryddfrydol, ac mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gan y pwyllgor canolog ym mis Gorffennaf 1872 bu’n cwyno bod y frwydr dros y bleidlais yn rhy dosbarth canol a bod angen apelio i'r dosbarthiad gweithiol er budd bleidlais i ferched.
Yn y 1850au cynnar sefydlodd ei gŵr the Salford Working Men's College ac erbyn 1860 bu Mrs Pochin yn rhoi ei egwyddor o addysg gyfartal ar waith trwy gynnal dosbarthiadau i ferched yn y coleg.
Ym 1874 prynodd Henry Davis Pochin ystâd Bodnant a bu Agnes yn byw yno hyd ei farwolaeth ar 12 Chwefror 1908. Rhoddwyd ei gweddillion i orffwys yng nghladdgell y stad The Poem.