Awdures toreithiog, Americanaidd oedd Agnes Sligh Turnbull (14 Hydref1888 - 31 Ionawr1982). Roedd llawer o'i gwaith yn ymwneud â ffuglen hanesyddol, wedi'i lleoli yn ei hardal enedigol, sef gorllewin Pennsylvania.
Ganed Agnes Sligh yn New Alexandria, Pennsylvania ar 14 Hydref1888 a bu farw yn Livingston, New Jersey. Fe'i claddwyd yn New Alexandria, Pennsylvania lle cafodd ei geni.[1][2][3]
Ei rhieni oedd Lucinda Hannah McConnell, o dras yr Albanaidd ac Alexander Halliday Sligh, hefyd yn fewnfudwr o'r Alban. Mynychodd ysgol y pentref, ac aeth ymlaen i ysgol breswyl cyn cofrestru yng Ngholeg yr Athrawon yn yr hyn a elwir bellach yn Brifysgol Indiana Pennsylvania, lle graddiodd Phi Beta Kappa. Mynychodd hefyd Brifysgol Chicago cyn dechrau gyrfa fel athrawes Saesneg mewn ysgol uwchradd.
Yn 1918, priododd James Lyall Turnbull, ychydig cyn iddo deithio i Ewrop yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd, a bu'r ddau gyda'i gilydd am 40 mlynedd. Cawsant un plentyn, merch o'r enw Martha. Symudodd y teulu i Maplewood, New Jersey ym 1922, lle bu iddynt ymsefydlu.[4]
Yn 1920, yn The American Magazine, cyhoeddwyd stori fer gyntaf Turnbull, a chyhoeddodd straeon byrion pellach yn rheolaidd tan 1936, pan gyhoeddodd ei nofel gyntaf, The Rolling Years. Er bod rhai beirniaid yn ystyried bod moesoldeb ei hysgrifennu yn hen ffasiwn, roedd hi ac eraill yn ei briodoli i agwedd obeithiol ar fywyd.
↑Waggoner, Walter H. "Agnes Turnbull, Novelist, 93, Dies", The New York Times, 2 Chwefror 1982. Adalwyd 24 Hydref 2007. "Agnes Sligh Turnbull, a popular and prolific novelist and shortstory writer, died Sunday at St. Barnabas Medical Center in Livingston, N.J. She was 93 years old and had lived in Maplewood, N.J., for 60 years."