Ahed Tamimi | |
---|---|
Ganwyd | 31 Ionawr 2001 Nabi Salih |
Man preswyl | Nabi Salih |
Dinasyddiaeth | Palesteina |
Galwedigaeth | ymgyrchydd, amddiffynnwr hawliau dynol |
Tad | Bassem al-Tamimi |
Perthnasau | Janna Jihad, Ahlam Tamimi |
Merch o Balesteina yw Ahed Tamimi (Arabeg: عهد التميمي ‘Ahad at-Tamīmī; hefyd Ahd) a aned 31 Ionawr 2001 ym mhentref bychan Nabi Salih yn y Lan Orllewinol.[1] Ymgyrcha dros ryddid ei phobl ac yn erbyn bygythiadau gan filwyr arfog Israel yn erbyn ei phobl.
Daeth yn enwog pan gwelwyd hi ar y cyfryngau torfol yn herio milwyr arfog Israel pan oedd yn blentyn; dros amser daeth yn symbol o obaith i'w phobol yn erbyn Israel a feddiannodd ei thir yn 1948. Cred Ahed Tamimi y dylai Palesteina fod yn wlad annibynnol. Yn Rhagfyr 2017 fe'i charcharwyd gan awdurdodau Israel, heb iddi ymddangos mewn llys barn.
Ei rhieni yw Bassem a Nariman Tamimi ac fe'i ganed yn Nabi Salih, oddeutu 20 cilometr (12.4 millt.) i'r gogledd-orllewin o Ramallah yn y Lan Orllewinol[1] Daeth ei theulu'n wreiddiol o Hebron yn y 1600au.[2][3]
Oherwydd fod awdurdodau Israel yn mynnu cymryd tiroedd y Palesteiniaid i'w pobl eu hunain (gan gynnwys yr tiroedd Ein al-Qawsby ble mae teulu Ahed Tamimi wedi byw ers cenedlaethau, cafwyd protestiadau yn erbyn hyn. Ymatebodd milwyr Israel droeon yn Nabi Saleh gyda nwy dagrau, arfau skunk, pwer canonau dŵr,[4] bwledi rwber a bwledi arferol.[4]. Dywedir bod 3 o'r pentref wedi'u lladd ganddynt ac eraill gydag anabledd parhaol. Lladdwyd ei ewyrth, Rushdie, ac anafwyd cannoedd.[4][5][6]
Yn ferch ifanc, dywedodd ei bod yn bwriadu bod yn gyfreithwraig[6] ac o'r herwydd dywedd ei theulu fod awdurdodau Israel yn ei thargedu.[4] nodwyd y byddai'r ardal ble saif cartre'r teulu'n cael ei ddymchwel ac ers hynny mae'r milwyr wedi ymweld a'i theulu oddeutu 150 o weithiau gan eu bygwth.[4]
|deadurl=
ignored (help)