Ahmed Jabari | |
---|---|
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1960 Dinas Gaza |
Bu farw | 14 Tachwedd 2012 Dinas Gaza |
Dinasyddiaeth | Palesteina |
Alma mater | |
Galwedigaeth | partisan |
Roedd Ahmed al-Jabari (Arabeg: أحمد الجعبري; 1960 – 14 Tachwedd 2012)[1] (ysgrifennir rhan olaf ei enw hefyd fel: Jaabari, Ja'bari neu Ja'abari) yn ymgyrchydd Palesteinaidd a'r ail uchaf ym myddin Hamas. O dan ei arweiniad ychwanegodd Hamas yn sylweddol at ei gyflenwadau o arfau gan gynnwys rocedi gyda'r grym i yrru'r taflegryn gryn bellter.[2]
Wedi graddio mewn Hanes ym Mhrifysgol Gaza cafodd ei arestio gan awdurdodau Israel yn 1982 a'i garcharu am 15 mlynedd am fod yn aelod o Fatah. yn y carchar cyfarfu â Salah Shehade a newidiodd ei deyrngarwch i Hamas; yn ddiweddarach priododd ferch Shedade. Bu'n wleidyddol weithredol hefyd, a sefydlodd Nur, sef mudiad i gynorthwyo carcharorion gwleidyddol.[3]
Fe'i lladdwyd gan daflegryn wedi'i anelu'n uniongyrchol ato gan Fyddin Israel ar 14 Tachwedd, 2012 tra roedd yn teithio mewn car, gan gychwyn Ymgyrch Colofn o Niwl.[4][5] Ef oedd swyddog uchaf o Hamas i gael ei ladd ers Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009.[6]
|author=
a |last=
specified (help); |access-date=
requires |url=
(help)