Aimee Bender | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1969 Unol Daleithiau America |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, academydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Pushcart |
Gwefan | http://aimeebender.com// |
Nofelydd ac awdur storiau byrion Americanaidd yw Aimee Bender (ganwyd 28 Mehefin 1969) sy'n nodedig am ei chymeriadau swreal.
Fe'i ganed yn Unol Daleithiau America i deulu Iddewig ar 28 Mehefin 1969.[1][2]
Derbyniodd ei gradd o Brifysgol California yn San Diego, a gradd Meistr yn y Celfyddydau Cain o raglen ysgrifennu creadigol MFA ym Mhrifysgol California yn Irvine. Yn 2019 roedd yn dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol De Califfornia lle bu'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr y PhD Doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth o 2012-2015. [3]
Ei llyfr cyntaf oedd The Girl in the Flammable Skirt, casgliad o straeon byrion, a gyhoeddwyd yn 1998. Dewiswyd y llyfr fel Llyfr Nodedig The New York Times yn 1998 a threuliodd saith wythnos ar restr gwerthwyr-gorau'r Los Angeles Times.
|dead-url=
ignored (help)