Airtricity

Airtricity
Math o gyfrwngbusnes Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1997 Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadSSE plc Edit this on Wikidata
PencadlysDulyn Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.sseairtricity.com Edit this on Wikidata

Cwmni rhyngwladol ydy Airtricity, sy'n datblygu a rhedeg ffermydd gwynt, mae'nt hefyd yn cyflenwi trydan ar gyfer cwsmeriad masnachol yng Nghweriniaeth a Gogledd Iwerddon.

Daw enw'r cwmni o'r Saesneg am awyr a thrydan. Yn wreiddiol, Eirtricity oedd yr enw, a ddaeth o'r gair Éire, sy'n Wyddeleg am Iwerddon. Newidwyr yr enw yn 2002 i adlewyrchu diddordebau rhyngwladol y cwmni.

Sefydlwyd y cwmni yn 1997, mae ei chynhyrchiad o drydan yn Iwerddon yn cynyddu, mae eu ffermydd gwynt yno wedi eu lleoli yn Cavan, Donegal, Sligo a Wexford. Mae hefyd yn gweithredu Arklow Bank Wind Park, y fferm wynt fwyaf yn Iweddon pan adeiladwyd hi. Mae hefyd yn rhedeg ffermydd gwynt yn Yr Alban, Lloegr, Cymru ac ardaloed o'r Unol Daleithiau. Yn presennol mae gan y cwmni ddyluniau a fuasai'n creu miloedd o fega-watiau yn y broses cynllunio, gan gynnwys 'Moel Fferm' ar y bryniau uwchben Tal-y-bont a Phenrhyn-coch yng Ngheredigion.

Mae'nt hefyd wedi datguddio cynlluniau i adeiladu grid anferth, cebl drydan HVDC yn rhedeg o Sbaen i'r Môr Baltig yn cysylltu nifer o ffermydd gwnt alltraeth.

Yn 2007, enwebwyd Airtricity yn y cwmni gorau i weithio iddi yn Iwerddon gan y Great Place To Work Institute.