![]() | |
Enghraifft o: | asana ![]() |
---|---|
Math | asanas eistedd ![]() |
![]() |
Math o asana yw Akarna Dhanurasana (Sansgrit: आकर्ण धनुरासन; IAST: Ākarṇa Dhanurāsana), a elwir hefyd y Saethwr Bwa,[1] neu'r Bwa Saeth,[1][2] a geir oddi fewn i ioga hatha, ioga modern ac fel ymarfer corff. Fel yr awgryma'r enw Cymraeg, mae osgo'r iogi yma'n debyg i saethwr ar fin rhyddhau saeth.
Daw enw'r osgo (neu'r asana) hwn o Sansgrit कर्ण Karṇa, "clust" gyda'r rhagddodiad Ā, "tuag" neu "ger". धनुर Mae Dhanura yn golygu "bwa" ac mae आसन asana yn golygu "safle'r corff" neu "eistedd". Cyfeiria'r enw at chwedl yn y Ramayana lle mae'r baban Sita yn gallu codi bwa anferth Shiva, un o brif dduwiau Hindŵaeth, a phan fydd hi'n cyrraedd oedran priodi, dim ond Rama sy'n gallu ei drin, ac felly dim ond hi all ddod yn ŵr iddi.[3]
Yn y 19g enw'r ystum oedd Sritattvanidhi yn y Dhanurasana.[4] Defnyddir yr enw modern hwn, Akarna Dhanurasana (y Saethwr Bwa) yn y gyfrol Light on Yoga 1966.[5]
Mae asana Akarna Dhanurasana yn golygu tynnu'r droed tuag at y glust o safle eistedd gyda'r coesau wedi'u hymestyn.[5][6]