Cyfnodolyn llenyddol a diwylliannol Llydaweg a gyhoeddir bob dau fis yw Al Liamm ("Y Ddolen"). Mae hefyd yn gwmni cyhoeddi pwysig yn y Llydaweg. Mae'r cyfnodolyn wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd diwylliannol Llydaw am dros hanner canrif ac yn uchel ei barch gan y Llydawyr. Mae wedi ymddangos yn ddifwlch ers ei greu, gan gyrraedd ei 357fed rifyn yn Ebrill 2008.
Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym Mharis gan Pêr ar Bihan ac Andrev Latimier. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar, unodd â ddau gyfnodolyn arall, sef Kened ac yna Tír na nÓg yn 1948, pan gymerodd Ronan Huon, cyfarwyddwr Tír na nÓg, drosodd. Arosodd fel prif olygydd hyd at ei farwolaeth yn 2003. Ar hyn o bryd mae Al Liamm yn cael ei redeg gan ei fab, Tudual Huon.
Mae Maodez Glanndour, Roparz Hemon, Ronan Huon, Pêr Denez, Pêr Diolier, Youenn Gwernig, Reun ar C'halan, Fañch Kerrain, Yann Gerven, a rhai cannoedd o lenorion eraill wedi cyfrannu cerddi, straeon, cyfieithiadau, erthyglau o bob math ac adolygiadau.
Yn ogystal â'r cylchgrawn, mae sawl cyhoeddiad Llydaweg yn cael ei gyhoeddi gan wasg Al Liamm.