Al Nakba

Al Nakba
Enghraifft o'r canlynoldispossession, Carthu ethnig Edit this on Wikidata
Dyddiad1948 Edit this on Wikidata
AchosSeioniaeth edit this on wikidata
LleoliadPalesteina dan Fandad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ffoaduriaid o Balesteiniaid, 1948

Mae'r term Arabeg al Nakba neu al Naqba (Arabeg: النكبة‎‎), sy'n golygu "Y Catastroffi" neu "Y Drychineb", yn cael ei ddefnyddio gan y Palesteiniaid i gyfeirio at laddfa, symudiad drwy drais a ffoedigaeth y Palesteiniaid o Palesteina 1947-1948 gan luoedd arfog y gymuned Iddewig fel yr Haganah, Palmach, Irgun a Lehi, cyn ac yn ystod Rhyfel Palesteina 1948. Gyrrwyd hanner poblogaeth Arabaidd Palesteina (750,000 o bobl) o'u cartrefi a gwrthododd y wladwriaeth Israeli newydd ganiatâd iddynt ddychwelyd. Gwacawyd a dinistriwyd pentrefi cyfan. Meddiannwyd rhai o'r tai gan wladychwyr Iddewig. Codwyd gwladychfeydd Iddewig newydd a choedwigoedd ar safle'r pentrefi a ddiboblogwyd. Mae'r Palesteiniaid a ddadleolwyd a'u teuluoedd bellach yn byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid ar y Lan Orllewinol a Llain Gaza ac yn alltud mewn gwledydd Arabaidd cyffiniol ac ar draws y byd. Cyfeirir ati hefyd fel Ffoedigaeth y Palesteniaid (Arabeg: الهجرة الفلسطينية‎‎, al-Hijra al-Filasteeniya).

Ceir Diwrnod Nakba i gofio'r digwyddiad ar 15 Mai bob blwyddyn. Yn 2009 gwaharddodd Gweinyddiaeth Addysg Israel y gair "Nakba" o lyfr ysgol i blant ifainc Arabeg.[1] Yn 2011 pasiodd senedd Israel (y Kneset) ddeddf sy'n gwahardd cynnal digwyddiadau i gofio'r Nakba.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. Black, Ian (22 Gorffennaf 2009). "1948 no catastrophe says Israel, as term nakba banned from Arab children's textbooks". The Guardian. Cyrchwyd 22 Medi 2024.
  2. Todorova, Teodora (2013). "Bearing Witness to al Nakba in a Time of Denial". Matar, Dina; Harb, Zahera (eds.). Narrating Conflict in the Middle East: Discourse, Image and Communications Practices in Lebanon and Palestine. London: I.B. Tauris. doi:10.5040/9780755607709.ch-012. ISBN 978-1-78076-102-2.: 248–270.