Alan Heusaff | |
---|---|
Ganwyd | 23 Gorffennaf 1921 Sant-Ivi |
Bu farw | 3 Tachwedd 1999 Gaillimh |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | geiriadurwr, ieithydd, person milwrol |
Swydd | athro cadeiriol |
Plaid Wleidyddol | Breton National Party |
Gwobr/au | Gorsedd y Beirdd |
Cenedlaetholwr Llydewig ac ieithydd oedd Alan Heusaff (23 Gorffennaf 1921 - 3 Tachwedd 1999).
Ganed ef yn Sant-Ivi ger Rosporden, yn Cornouaille. Aeth i École Normale Kemper, ac ymunodd â'r Parti National Breton (PNB) yn 1938. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dewisodd gydweithredu a'r Almaenwyr yn y gobaith o ennill rhyddid i Lydaw, gan ymuno â Bezen Perrot yn 1943. Ar ddiwedd y rhyfel, bu raid iddo ffoi o Lydaw, a chafodd gymorth rhai o aelodau Plaid Cymru i gyrraedd Iwerddon, lle dechreuodd astudio ym Mhrifysgol Dulyn yn 1950, gan gael gwaith gyda Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol Iwerddon yn ddiweddarach.
Yn 1961, roedd yn un o sylfaenwyr yr Undeb Celtaidd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog. Etholwyd ef yn Ysgrifennydd Cyffredinol. Ef a gyhoeddodd y geiriadur cyntaf yn Llydaweg yn unig, Geriaoueg Sant-Ivi.