Enghraifft o: | enw aml-ddefnydd, ffugenw torfol |
---|
Ffugenw a ddefnyddir gan gyfarwyddwyr ffilm sy'n dymuno gwadu prosiect yw Alan Smithee (hefyd Allen Smithee). Cafodd yr enw ei fathu gan y Directors Guild of America (DGA) ym 1968 a'i ddefnyddio nes iddo ddirwyn i ben i raddau helaeth yn 2000, Dyma'r unig ffugenw y caniataodd y DGA i'w haelodau ei ddefnyddio pan oedd cyfarwyddwr, a oedd yn anfodlon â'r cynnyrch terfynol, yn gallu profi i'w boddhad nhw nad oedd ef wedi gallu gweithredu rheolaeth greadigol dros ffilm.[1]
Mae'r enw "Alan Smithee" hefyd wedi cael ei ddefnyddio mewn cyfryngau eraill pan fu dadleuon ynghylch sut y dylid cydnabod cyfarwyddwr. Yn benodol, fe'i defnyddiwyd sawl gwaith ar gyfer fersiynau o ffilmiau sinema a olygwyd ar gyfer y teledu mewn ffordd nad oedd y cyfarwyddwr gwreiddiol yn ei chymeradwyo.