Alan Stivell | |
---|---|
Alan Stivell mewn cyngerdd, gyda'i Delyn Geltaidd | |
Ganwyd | Alan Cochevelou 6 Ionawr 1944 Riom |
Man preswyl | Lanvezhon / Bezhon, Roazhon |
Label recordio | Fontana Records, Keltia 3, Mouez Breiz, Universal Music France, Philips Records, Disques Dreyfus, World Village, Harmonia Mundi, Play It Again Sam, Sony Music, Disc'AZ, Warner Music Group, Coop Breizh |
Dinasyddiaeth | Llydaw |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, arweinydd, telynor, canwr, ymgyrchydd, cerddor, cynhyrchydd recordiau, trefnydd cerdd, cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon, offerynnau amrywiol, artist recordio |
Swydd | cadeirydd anrhydeddus |
Arddull | cerddoriaeth Lydewig, cerddoriaeth Celtaidd, asiad Geltaidd, trawsnewid, cerddoriaeth yr oes newydd, roc Geltaidd, roc gwerin, cerddoriaeth electroawcwstig, roc Llydewig |
Math o lais | bariton |
Prif ddylanwad | dawnsio Llydewig, Sœurs Goadec, Frères Morvan, Jef Le Penven, Seán Ó Riada, Roger Abjean, Mary O'Hara, Turlough O'Carolan, pìobaireachd, Cerddoriaeth Iwerddon |
Tad | Georges Cochevelou |
Mam | Fanny Julienne Dobroushkess |
Gwobr/au | Commandeur des Arts et des Lettres, Urdd y Carlwm, Gwobr Imram, Premio Tenco |
Gwefan | http://www.alanstivell.bzh |
Cerddor Llydewig yw Alan Stivell (ganed Alan Cochevelou 6 Ionawr, 1944). Mae ei enw llwyfan "Stivell" yn golygu "ffynnon" yn Llydaweg. Roedd ei deulu o Gourin ond treuliodd ei blentyndod ym Mharis. Magodd ddiddordeb yng ngherddoriaeth Llydaw ac ym 1953 dechreuodd ganu'r delyn. Ef yn anad neb arall sy'n gyfrifol am boblogrwydd y delyn Geltaidd. Dysgodd Lydaweg a bu'n cystadlu mewn gwyliau gwerin yn Llydaw. Dechreuodd recordio ym 1959, ac ymddangosodd yr LP Telenn Geltiek ym 1960. Daeth yn adnabyddus iawn yn ystod y 1970au gyda'r adfywiad mewn canu gwerin, a bu ar daith i nifer o wledydd, gan gynnwys Cymru (mae ei fersiwn o 'Mae gen i ebol melyn' yn arbennig o Geltaidd).
Yn 1953 cerfiodd ei dad (Georges Cochevelou) delyn Geltaidd i'w fab, a honno wedi ei llunio ar delynau traddodiadol Llydewig. Dysgodd siarad Llydaweg yn sydyn iawn; dysgodd hefyd llawer am ddawnsio traddodiadol Llydaw. Dysgodd hefyd sut i chwythu'r pibgorn a'r bombarde Llydewig. Recordiodd sengl yn 1953 ac yna Telenn Geltiek yn 1963.
Perfformiodd ar y cyd gyda'r Moody Blues yn Llundain yn (1968). Yn 1970, lansiodd y sengl "Broceliande" a Reflets, y ddau ar label Philips. Roedd lansio'r albwm hwn yn faniffesto dros ei ymgyrch dros Cerddoriaeth y Byd (neu 'World Music').
Ef hefyd oedd yn gyfrifol am y symudiad Llydewig o 'fynd yn ôl at y gwreiddiau', drwy recordio albwm (yn 1971) o'r enw Renaissance de la Harpe Celtique.
Teithiodd led-led yn byd yn canu mewn gwledydd megis Canada, UDA, Gwledydd Prydain a Ffrainc.
Yn 1976 cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth Llydewig.
Yn 1979 impiodd nifer o genres wrth ei gilydd i greu Symphonie Celtique: roc, elfenau 'Berber' y lleisydd Djouha a'r sitarydd Narendra Bataju. Roedd y perfformiad cyntaf o'r Symffoni Celtaidd ym maes pêl-droed enfawr Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant o flaen deg mil o gynulleidfa. Chwarter awr cyn y diwedd, daeth cawod ysgafn o law ac ni orffennwyd y symffoni. Rhoddwyd y cyfan ar ddisg, fodd bynnag.
Ym 1980 enillodd Wobr Goffa Nansi Richards fel prif delynor Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau
Yn yr 1980au trodd y canu gwerin yn fath arall roedd wedi ei ragweld flynyddoedd ynghynt, sef Cerddoriaeth y Byd. Cydweithiodd dro ar ôl tro gyda Kate Bush.
Bu'n ddylanwad ar, a pherfformio gyda, cantorion Llydewig eraill, megis Yann-Fañch Kemener.