Llywethau'r môr | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Parth: | Eukaryota |
Teyrnas: | Plantae |
Ffylwm: | Gyrista |
Teulu: | Alariaceae |
Genws: | Alaria |
Rhywogaeth: | A. esculenta |
Enw deuenwol | |
Alaria esculenta (Linnaeus) Greville |
Mae llywethau'r môr (enw gwyddonol: Alaria esculenta) yn wymon bwytadwy ac fe'i adnabyddir yn Saesneg fel dabberlocks, badderlocks, winged kelp, a weithiau Atlantic Wakame. Mae'n fwyd traddodiadol ar hyd arfordir pellenig gogleddol Cefnfor yr Iwerydd. Gellir ei fwyta'n amrwd neu wedi ei goginio o'r Ynys Las, i Wlad yr Iâ, yr Alban ac Iwerddon. Hwn yw'r unig rywogaeth o Alaria allan o ddeuddeg sydd yn tyfu o amgylch Iwerddon a Phrydain Fawr.
Yn tyfu i uchafswm hyd o 2 m, mae'r ffrond cyfan yn frown ac yn cynnwys asen ganol amlwg gyda lamina pilennog tonnog hyd at 7 cm o led bob ochr. Mae'r ffrond yn ddi-ganghennog [1] ac yn meinhau tua'r diwedd. Mae gan y gwaelod goes (stipe) fer sy'n deillio o afaeliad gwreiddflewog. Gall y goes gynnwys sawl sporoffyl sydd ar ffurf clwb a hyd at 20 cm o hyd a 5 cm o led sy'n cario'r sborau .
Mae'n tyfu o goes (stipe) silindrog fer sydd wedi'i gysylltu â'r creigiau gan ddaliad o risoidau canghennog tebyg i wreiddiau ac mae'n tyfu i tua 20. cm o hyd. Mae'r goes hon yn parhau i mewn i'r ffrond gan ffurfio asen ganol hir amlwg, Mae'r holl algâu brown mawr a di-ganghennau eraill sydd i'w cael o amgylch Ynysoedd Prydain heb asen ganol. Mae'r llafn (lamina) yn denau, yn bilennog gydag ymyl tonnog. [2]
Mae sporangia yn tyfu mewn tyfiant deiliog cul siâp clwb a gynhyrchir ger y gwaelod gan dyfu o'r coesyn. Mae'r rhain yn tyfu i 20 cm o hyd a 5 cm o led. [1] [3]
Mae llywethau'r môr yn adnabyddus yn Iwerddon, lle mae'n cael ei adnabod fel Láir neu Láracha, ac fel Mircean yng Ngaeleg yr Alban ac yng ngweddill Ynysoedd Prydain [4] ac eithrio de a dwyrain Lloegr . Mae'n luosflwydd. [5]
Mae'n algâu mawr cyffredin ar lannau lle mae amlygiad tonnau difrifol [6] ynghlwm wrth greigiau ychydig o dan ddyfrnod isel yn y "Llain Laminaria", ac mae'n gyffredin ar lannau creigiog mewn mannau agored. [7] [8] Mae ganddo gyfradd twf cynhenid eithaf uchel o'i gymharu ag algâu eraill, sef oddeutu 5.5% y dydd a chynhwysedd cludo o tua 2 kg pwysau gwlyb fesul metr sgwâr. Gall gyrraedd hyd o tua 2.5 m. Mae'n gorgyffwrdd i raddau bach (+) o ran dosbarthiad â Fucus serratus ac ychydig yn fwy â Laminaria digitata (brŵal neu fôr-wiail yn y Gymraeg). Mae ganddo werthoedd cyfyngu golau isel ac uchel o tua 5 a 70 W y metr sgwâr yn y drefn honno. Mae ei ddosbarthiad hefyd wedi'i gyfyngu gan halltedd, amlygiad tonnau, tymheredd, disiccation a straen cyffredinol. Crynhoir y rhain, a nodweddion eraill yr algâu yn Lewis (1964) a Seip 1980. [9] [10] [11]
Mae sporoffylau tebyg i ddeilen yn datblygu o'r goes ac yn cynhyrchu sŵsborau . [2]
Gall A. esculenta gynhyrchu fflorotanninau a lipidau ocsidiedig fel swyddogaethau amddiffynnol yn erbyn pelydriadau ffotosynthetig actif uchel ac UV. [12]
Mae'n gartref i'r ffwng pathogenig Phycomelaina laminariae . [13]
Ewrop : Ffrainc yr Iwerydd, Ynysoedd y Sianel, Prydain, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Heligoland, Baltig, Gwlad yr Iâ, Ynysoedd Ffaro, Norwy a Svalbard ; Gogledd America : Efrog Newydd, Lloegr Newydd, Taleithiau Morwrol, Newfoundland, Quebec, Labrador, Alaska, Canada Arctig a'r Ynys Las ; Asia : Japan, Korea, Kuriles, Sakhalin a Kamchatka.[4]