Albert Roux | |
---|---|
Ganwyd | Albert Henri Roux 8 Hydref 1935 Semur-en-Brionnais |
Bu farw | 4 Ionawr 2021 Llundain |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pen-cogydd, person busnes |
Plant | Michel Roux, Jr. |
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur, Officer of the Order of Agricultural Merit, Chevalier de la Légion d'Honneur, OBE |
Gwefan | http://www.albertroux.co.uk |
Chef Ffrengig oedd Albert Roux, OBE (8 Hydref 1935 – 4 Ionawr 2021).[1] Roedd yn berchennog y bwyty "Le Gavroche" ym Mayfair, Llundain, gyda'i frawd Michel (m. 2020).
Cafodd Roux ei eni yn Semur-en-Brionnais, Saône-et-Loire, yn fab i charcutier.[2] Daeth y ddau frawd Roux yn gogyddion crwst. Wedyn aeth y ddau ohonyn nhw i weithio yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis. Fe wnaethant agor eu bwyty cyntaf yn Llundain ym 1967.
Roedd Roux yn briod tairwaith ac roedd ganddo un mab, Michel Roux, Jr., perchennog presennol "Le Gavroche".[3] Bu farw Roux yn Llundain, yn 85 oed.[4]