Alena Wagnerová | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mai 1936 Brno |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, cyfieithydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, rhyddieithwr, dramodydd |
Gwobr/au | Gwobr Pelikán |
Awdures a newyddiadurwraig Tsiec yw Alena Wagnerová (ganwyd 18 Mai 1936) sy'n sgwennu mewn Almaeneg a mewn Tsieceg.[1]
Fe'i ganed yn Brno, ail ddinas fwyaf y Weriniaeth Tsiec, ar 18 Mai 1936.[2][3][4][5]
Wedi gadael ei hysgol leol, astudiodd fioleg ym Mhrifysgol Masaryk. Aeth Wagnerová ymlaen i astudio addysgu, theatr, Almaeneg a llenyddiaeth gymharol. Dysgodd yn y Dům pionýrů yn Brno, ac fe'i penodwyd yn bennaeth labordy'r Gyfadran Filfeddygol yn y Brifysgol Amaethyddol cyn newid ei gyrfan'n llwyr gan ddod yn ddramodydd yn y Divadlo Julia Fučíka. Rhwng 1968 a 1969, bu'n olygydd Studentké listy. Aeth i'r Almaen yn 1969 lle priododd. Felly gweithiodd Wagnerová ar brosiect Paměť žen (Atgofion i Ferched) ym Mhrâg.[1] [6][7][8]
Mae wedi ysgrifennu am awduron Almaeneg o Prâg, e.e. Franz Kafka a Milena Jesenská, a ffigurau diwylliannol Bohemia, pobl fel Sidonie Nádherná o Borutín. Yn ei ffuglen a'i hysgrifennu ffeithiol, mae'n archwilio materion fel statws menywod a chysylltiadau Tsiec-Almaeneg.[1]
Bu'n aelod o Ganolfan PEN yr Almaen am rai blynyddoedd.