Enghraifft o: | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | anhwylder sy'n berthnasol i glwten, alergedd bwyd, clefyd |
Enghraifft o: | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | anhwylder sy'n berthnasol i glwten, alergedd bwyd, clefyd |
Mae Alergedd gwenith yn alergedd sy'n cyflwyno ei hun fel arfer fel alergedd bwyd, ond sydd hefyd yn gallu bod yn alergedd cyffwrdd sydd o ganlyniad i amlygrwydd galwedigaethol i wenith.
Fel pob alergedd, mae alergedd gwenith yn ymwneud ac immunoglobulin E ac ymateb y mastgell. Mae'r alergedd fel arfer wedi ei gyfyngu i'r protinau sy'n storio hadau mewn gwenith, gyda rhai adweithiau wedi'u cyfyngu i brotinau gwenith, tra bod eraill yn gallu adweithio i sawl math o hadau a meinweoedd planhigion eraill. Mae'n bosib fod alergedd gwenith wedi'i gamenwi am fod nifer o gydrannau alergaidd mewn gwenith, megis atalyddion proteas serin, glutelinau s prolaminau ac mae gwahanol ymatebion yn cael eu priodoli i wahanol broteinau. Mae 27 gwahanol math o alergedd gwenith posibl wedi'u hadnabod hyd yma.[1] Yr ymateb mwyaf eithafol yw anaphylaxis sy'n cael ei achosi gan ymarfer corff neu aspirin, sy'n cael ei briodoli i un omega gliadin sy'n perthyn i'r protein sy'n achosi clwy'r ceudod.[2] Mae symptomau mwy cyffredin eraill yn cynnwys cyfog, y ddanadfrech, atopedd.[3] Nid yw Sensitifrwydd gluten fel arfer yn cael ei ystyried yn alergedd gwenith.
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |