Alexander Rodchenko | |
---|---|
Ganwyd | 23 Tachwedd 1891 (yn y Calendr Iwliaidd) St Petersburg |
Bu farw | 3 Rhagfyr 1956 Moscfa |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd, Yr Undeb Sofietaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, ffotograffydd, cerflunydd, pensaer, dylunydd graffig, cynllunydd, teipograffydd, artist, arlunydd graffig |
Arddull | figure, celf haniaethol, portread, geometric abstraction, celf genre, celf tirlun |
Mudiad | Adeileddiaeth, Ciwbiaeth, Swprematiaeth |
Priod | Varvara Stepanova |
Peintiwr, cerflunydd, ffotograffydd a dylunydd o Rwsia oedd Aleksander Mikhailovich Rodchenko (Rwsieg: Алекса́ндр Миха́йлович Ро́дченко; (5 Tachwedd 1891 – 3 Rhagfyr 1956). Roedd yn un o gyd-sylfaenwyr y mudiad celfyddydol lluniadaeth (constructivist). Roedd yn briod i'r arlunydd Varvara Stepanova. Roedd Rodchenko yn un o'r arlunwyr lluniadaethol mwyaf amlddoniog i ymddangos wedi Chwyldro Rwsia 1917. Gweithiodd fel peintiwr a dylunydd graffig cyn troi at photomontage a ffotograffiaeth. Roedd ei ffotograffiaeth ddyfeisgar, yn arloesol ac yn tynnu'n groes i esthetegb peintio draddodiadol. Gan geisio creu ffotograffau i'w dogfenni a'u dadansoddi roedd yn aml yn tynnu ei ffotograffau o onglau cam neu safbwyntiau anarferol o isel neu uchel er mwyn rhoi sioc a'i wneud yn anoddach i adnabod ar unwaith testun y llun.
Ysgrifennodd Rodchenko: "Rhaid tynnu sawl llun o'r testun, o safbwyntiau a sefyllfaoedd gwahanol, fel petai rhywun yn ei archwilio yn ei gyfanrwydd yn hytrach nag edrych trwy'r un twll y clo drosodd a throsodd."
Fe'i ganed yn St. Petersburg i deulu dosbarth gweithiol a symudodd i Kazan yn dilyn marwolaeth ei dad, ym 1909.[1] Fe ddaeth yn arlunydd heb fod yn rhan o'r byd celfyddydol, yn cael ei ysbrydoli gan gylchgronau celf. Dechreuodd astudio yn Ysgol Gelf Kazan ble y cyfarfu â Varvara Stepanova a briododd yn ddiweddarach.
Ar ôl 1914, astudiodd gelf yn Sefydliad Stroganov ym Moscow, ble yn 1915 fe wnaeth ei ddyluniadau haniaethol cyntaf, wedi'i ddylanwadu gan Kazimir Malevich a'i Suprematism gyda'u ffurfiau geometrig yn erbyn cefnir gwyn. Yn y flwyddyn ganlynol cymerodd ran mewn arddangosfa a drefnwyd gan Vladimir Tatlin, dylanwad mawr arall arno.
Rodd gwaith Rodchenko hefyd wedi'i ddylanwadu'n gryf gan Ciwbiaeth (Cubism) a Dyfodoliaeth (Futurism).
Fel cynorthwyydd i Tatlin, ymbellhaodd o waith ffigurol ac fe ddechreuodd arbrofi gydag elfennau dylunio gan ddefnyddio cwmpawd a phren mesur gan obeithio cael gwared â gwaith brwsh mynegiannol.[2]
Fe benodwyd Rodchenko yn gyfarwyddwr Biwro Amgueddfeydd a Chronfa Prynu gan y Llywodraeth Bolsiefic ym 1920, yn gyfrifol am ad-drefnu amgueddfeydd ac ysgolion celf. Yn ddiweddarach daeth yn ysgrifennydd Undeb Arlunwyr Moscow ac fe sefydlodd adran gelf cain Comisariaeth Addyg y Bobl, ac fe gynorthwyodd yng nghychwyn y Sefydliad Diwylliant Celfyddydol.[3]
O 1920 i 1930 dysgodd yn Stiwdio Dechnegol-Artistig Uwch, sefydliad Bauhaus a gaewyd yn 1930[3].
Gyda'i wraig Stepanova ac eraill roedd Rodchenko yn gobeithio gwneud celf yn rhan o fywyd beunyddiol. Rhoes y gorau i beintio er mwyn canolbwyntio ar ddylunio graffig ar gyfer posteri, llyfrau a ffilmiau.
Ar ôl i waith photomontage Dada Almaeneg greu argraff arno, ym 1923 dechreuodd Rodchenko arbrofi gyda'r cyfrwng, yn gyntaf gyda delweddau a ddarganfuwyd; o 1924 ymlaen roedd yn tynnu ei ffotograffau ei hun.[4] Cyhoeddwyd ei photomontage cyntaf ym 1923 yn ddyluniad o gerdd Vladimir Mayakovsky "Am Hwn" .
O 1923 i 1928 roedd Rodchenko a Mayakovsky yn cydweithio'n agos ar LEF, cylchgrawn lluniadaethol (constructivist). Ymddangosodd llawer o ffotograffau Rodchenko yn LEF ac fe dynnodd sawl portread o Mayakovsky yn ystod y cyfnod hwn. Roedd ei ddelweddau'n rhydd o fanylder di-angen, gyda phwyslais ar elfennau ar onglau a'u lleoliad a symudiad o fewn y ffrâm.
Rhwyg 1923 a 1925 fe weithiodd gyda Mayakovsky hefyd i greu cynlluniau ar gyfer hysbysebion i'r llywodraeth a chwmnïau preifat. Roedd Mayakovsky yn ysgrifennu’r testun a Rodchenko yn eu cynllunio. Arwyddwyd y gwaith yn ‘’Mayakovsky-Rodchenko Adeiladwyr Hysbysebion’’ yn ymwybodol o’r paradocs o wneud hysbysebion steil cyfalafol i hybu comiwnyddiaeth a gwerthu cynnyrch.[5]
Trwy'r 1920au roedd gwaith Rodcheno yn haniaethol, ond yn y 1930au bu raid iddo'i newid er mwyn cydymffurfio â pholisïau'r llywodraeth gormesol Stalin ac fe ganolbwyntiodd ar ffotograffiaeth chwaraeon a delweddau o orymdeithiau a digwyddiadau wedi'u trefnu.
Ym 1933 cafodd ei gomisiynau i dynnu lluniau cyhoeddusrwydd o waith adeiladu'r Gamlas rhyng Y Môr Baltig a'r Môr Gwyn, oedd i fod yn brosiect arwrol. Wrth edrych yn agos mae'r lluniau hefyd yn dangos gweithwyr trist a oedd wedi dioddef amodau erchyll.[6] Bu farw miloedd o weithwyr a orfodwyd i weithio ar y gamlas.[7]
Bu rhaid i Rodchenko peintio dros wynebau pobl yn ei gasgliad o ffotograffau pan drowyd Llywodraeth Stalin yn eu herbyn a'u carcharu neu ladd. Cynlluniodd Rodchenko glawr i Lywodraeth Stalin ar gyfer adroddiad am achos llys Shakhti, 1928 pan gafodd pum deg tri o weithwyr eu lladd a thros bedwar deg arall eu carcharu'n yn dilyn cyhuddiadau o 'droseddau' dychmygol.[8]
Ymunodd Rodchenko a'r grŵp celfyddydol 'Cylch Hydref ' ym 1928 ond cafodd ei ddiarddel tair blynedd yn ddiweddarach, wedi'i gyhuddo o 'ffurfioldeb'. Dychwelodd i beintio ar ddiwedd y 1930au. Parhaodd i drefnu arddangosfeydd ar ran y llywodraeth ar ddiwedd ei fywyd. Bu farw ym Moscow ym 1956.
Dylanwadwyd ar lawer o waith dyluno graffig yr 20g gan Rodchenko a lluniadaeth.
Mae ei bortread o Lilya Brik ynghyd â phoster yn hysbysebu llyfrau yn defnyddio'r portread wedi ysbrydoli nifer fawr o gopïau gan gynnwys cloriau recordiau fel The Ex a Franz Ferdinand.