Alice Gray | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mehefin 1914 |
Bu farw | 27 Ebrill 1994 Norwalk |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pryfetegwr |
Entomolegydd ac origamydd Americanaidd oedd Alice E. Gray (7 Mehefin 1914 – 27 Ebrill 1994)[1]. Roedd hi'n gweithio fel entomolegydd yn Amgueddfa Hanes Naturiol America (AMNH) yn Efrog Newydd. Yn cael ei hadnabod fel y "Dynes Byg", ymddangosodd ar The Tonight Show ar y teledu. Roedd hi'n ymarfer origami hefyd, a dechreuodd traddodiad o ddefnyddio creaduriaid origami i addurno coeden Nadolig yr amgueddfa. Ym 1978, roedd hi'n cyd-sefydlodd Gyfeillion Canolfan Origami America yn Efrog Newydd gyda Lillian Oppenheimer a Michael Shall, a elwir bellach yn OrigamiUSA.
Bu farw yn Norwalk, Connecticut, yn 79 oed.[2]