Alice Morgan Wright | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 10 Hydref 1881 ![]() Albany ![]() |
Bu farw | 8 Ebrill 1975 ![]() Albany ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerflunydd, ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, arlunydd ![]() |
Ffeminist Americanaidd oedd Alice Morgan Wright (10 Hydref 1881 - 8 Ebrill 1975) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cerflunydd, ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét a cherflunydd. Roedd yn un o arlunwyr cyntaf Unol Dalkeithiau America i gofleidio'r ddau arddull newydd: ciwbiaeth a dyfodoliaeth a sgwennodd am barchu anifieliaid.[1]
Fe'i ganed yn Albany, Efrog Newydd ac yno hefyd y bu farw. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Smith, Massachusetts aUrdd Myfyrwyr Celf Efrog Newydd.[2][3][4][5]
Daeth Wright o hen deulu o ardal Albany. Bu'n fyfyriwr yn Ysgol St Agnes yn Albany (Ysgol Doane Stuart, bellach).[6]
Graddiodd o Goleg Smith, a daliodd ati â'i hastudiaethau yn Ninas Efrog Newydd. Tra'n astudio yng Nghynghrair Myfyrwyr Celf Efrog Newydd, fe'i gwaharddwyd rhag mynychu 'astudiaethau bywyd' felly gwyliodd Wright gystadlaethau bocsio a reslo lleol er mwyn astudio'r ffurf ddynol.[7][8] Ym 1909, aeth i Baris, lle mynychodd yr École des Beaux-Arts a'r Académie Colarossi. Ym Mharis roedd hi'n ddisgybl i Injalbert ac yn Efrog Newydd astudiodd gyda Gutzon Borglum, James Earle Fraser a Hermon Atkins MacNeil.[9] [10]
Arddangosodd yn Sefydliad Celf Chicago a Sefydliad Celf Philadelphia, ac ymddangosodd ei gwaith yn Ewrop yn Academi Frenhinol y Celfyddydau (Llundain) a'r Salon des Beaux Arts (Paris). [6] Roedd hi'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Peintwyr a Cherflunwyr Benywaidd yn ogystal â bod yn aelod a chyd-sefydlydd, a chyfarwyddwr Cymdeithas yr Artistiaid Annibynnol.