Alison Thewliss | |
| |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – 30 Mai 2024 | |
Rhagflaenydd | Anas Sarwar Y Blaid Lafur |
---|---|
Geni | Yr Alban | 13 Medi 1982
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Canol Glasgow |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Ydy |
Plant | 2 |
Cartref | Glasgow |
Alma mater | Prifysgol Aberdeen |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Gwleidydd o'r Alban yw Alison Thewliss (ganwyd 13 Medi 1982) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Canol Glasgow. Mae Alison Thewliss yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae'n aelod o'r SNP ers oedd yn yr ysgol uwchradd.[1]
Yn 2007 fe'i hetholwyd yn gynghorydd sir yn Glasgow, dros ward Calton. Mae'n briod i ddatblygwr meddalwedd a ganwyd plentyn iddynt yn 2010[2] a merch yn 2013.[3]
Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[4][5] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Alison Thewliss 20658 o bleidleisiau, sef 52.5% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +35.0 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 7662 pleidlais.