Allen Raine | |
---|---|
Ffugenw | Allen Raine |
Ganwyd | Anne Adalisa Evans 6 Hydref 1836 Castellnewydd Emlyn |
Bu farw | 21 Mehefin 1908 Bronmôr, Tresaith |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | nofelydd, llenor |
Perthnasau | David Davies |
Nofelydd poblogaidd o Gymru oedd Anne Adaliza Beynon Puddicombe (née Evans), neu Allen Raine (6 Hydref, 1836 - 21 Mehefin, 1908) a fu farw yn 71 mlwydd oed.[1] Erbyn 1912 roedd ei nofelau wedi gwerthu dwy filiwn o gopiau, sy'n ei gwneud yn un o'r awduron mwyaf poblogaidd drwy'r byd, yn y cyfnod. Lleolwyd pob un o'i nofelau rhamant yng Ngheredigion ac roedd y prif gymeriadau fel arfer werinwyr cyffredin.[2][3]
Ganed yr awdur yn nhref Castell Newydd Emlyn yn 1836 yn ferch i Benjamin a Letitia Grace Evans. Roedd ei thad (yn ŵyr i David Davies o Gastellhywel neu Dafis Castellhywel fel yr adnabyddid ef) yn gyfreithiwr a'i mam yn wyres i'r Parch. Daniel Rowland. Buont yn byw yng Nglandŵr, Tresaith hyd at 1872.[4] Fe'i danfonwyd i fyw i Cheltenham a Wandsworth ac yna i Lundain gyda'i chwaer a dychwelodd i Gymru yn 1856. Yn 1872 symudodd Anne yn ôl i Lundain wedi iddi briodi'r banciwr (gyda Banc Smith Payne, Llundain) ac arlunydd[5] Beynon Puddicombe.
Yn Llundain y cychwynodd ysgrifennu o dan y llysenw Allen Raine. Cyhoeddodd “A Welsh Singer” yn 1896, ar ôl iddi rannu’r wobr gyntaf am nofel o'r enw Ynysoer yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1894. Dychwelodd y ddau i Dresaith yn 1900 pan drawyd Beynon Puddicombe gyda salwch meddwl. Buont yn byw ym "Mronmôr", Tre-saith, Ceredigion, lle bu farw Beynon ym mis Mai 1906. Bu Anne farw ar 21 Mehefin 1908.
Enillodd nofel gyntaf Raine, Ynysoer, gwobr am y nofel gorau yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894 o dan ei henw barddol Arianwen. Roedd yn un o ddwy nofel a dyfarnwyd yn gydradd gyntaf, y llall oedd Robert Siôn, neu Fywyd Gwledig yng Nghymru, Gan Elis o'r Nant.[6] Cyhoeddwyd fersiwn Cymraeg Ynysoer fel nofel gyfres yn Y Genedl Gymraeg. [7]
Addaswyd tri o'i llyfrau ar gyfer ffilm: Torn Sails (1915), A Welsh Singer (1920) a By Berwen Banks (1920).
Roedd ganddi gysylltiadau â Sarah Jacobs y ferch a ymprydiodd o Llanfihangel ar Arth. Cafodd Anne ei chladdu ym mynwent eglwys plwyf Penbryn, ger Tre-saith, lle priododd; yn y pentref bychan lle treuliodd chwarter canrif olaf ei hoes.
Torn Sails (1915), A Welsh Singer (yn serennu Florence Turner 1920) a By Berwen Banks (1920).