Altiatlasius

†Altiatlasius koulchii
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Sigé et al., 1990
Genws: Altiatlasius
Rhywogaeth: †Altiatlasius koulchii'

Genws diflanedig o famaliaid yw Altiatlasius, a all fod y primat hynaf y gwyddys amdano, ac sy'n dyddio o'r Paleosen Diweddar (c.57 miliwn o fl. CP); canfuwyd ei ffosiliau ym Moroco. Disgrifiwyd yr unig rywogaeth o'r genws yma, Altiatlasius koulchii, ym 1990.

Mae ei gwir sefyllfa tacsonomaidd yn parhau i fod yn ddadleuol. Awgrymwyd hefyd y dylid ei ddosbarthu fel plesiadapiform (grŵp diflanedig o famaliaid coediog y credir eu bod yn hynafiaid i primatiaid) neu y dylid ei gydnabod fel ewprimat, naill ai fel omomyid (cangen o brimatiaid ffosil y credir ei bod perthyn yn agos i tarsiers ), tarsiform cynnar, neu'r simian coesyn hynaf (mwncïod ac epaod).

Hanes a thacsonomeg

[golygu | golygu cod]

Mae'r dystiolaeth o'r genws a'r rhywogaeth yma'n gyfyngedig i ddim ond deg cilddant uchaf ac isaf a darn o fandibl (gorfant) yr Altiatlasius koulchii. Dyma'r ewprimad hynaf y gwyddys amdano[1][2][3]. Mae'r ffosilau hyn yn dyddio i'r Paleosen Diweddar, tua 57 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac yn dod o Jbel Guersif ym Masn Ouarzazate, Moroco.[2] Disgrifiwyd gyntaf yn 1990 gan Sigé et al., Cynigiwyd yn wreiddiol i Altiatlasius fod yn omomyid, o bosibl yn agos at yr hollti a fu oddi wrth y simiaid (mwncïod ac epaod). Cafodd hefyd ei ddosbarthu i'r teulu Toliapinidae gan rai, fel math o plesiadapiform a geir yn Ewrop.[4][5] Mae dosbarthiadau eraill yn cymryd yn ganiataol eu bod yn fonyn o'r ewprimatau, yn simiaid tebyg i eosimid,[6] neu'n darsiform cynnar.[5] Mae llawer o awdurdodau'n ystyried Altiatlasius fel y bonyn simian hynaf.[6][4] Godinot (1994) a Bajpai et al. (2008); mae'r ddau'n cefnogi'r farn ei fod yn anthropoid cynnar (simian).[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Llenyddiaeth a ddyfynnir

[golygu | golygu cod]