Alvin Stardust | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Shane Fenton, Alvin Stardust ![]() |
Ganwyd | Bernard William Jewry ![]() 27 Medi 1942 ![]() Llundain ![]() |
Bu farw | 23 Hydref 2014 ![]() Ifold ![]() |
Label recordio | Parlophone Records ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, canwr, actor teledu, artist recordio ![]() |
Arddull | cerddoriaeth roc, roc glam, roc a rôl ![]() |
Priod | Liza Goddard ![]() |
Plant | Adam F ![]() |
Gwefan | https://www.alvinstardust.com/ ![]() |
Canwr Seisnig oedd Alvin Stardust (ganwyd Bernard William Jewry; 27 Medi 1942 – 23 Hydref 2014), a elwir hefyd yn Shane Fenton.
Priododd Stardust deirgwaith yn ei fywyd. Yn 1964, yn Lerpwl, fel Bernard W. Jewry priododd Iris Caldwell,[1] chwaer Rory Storm a cyn-gariad i George Harrison a Paul McCartney, cyfoedion iddi yn Lerpwl.[2] Yn 1981, priododd Stardust yr actores Liza Goddard,[3] eto dan yr enw Bernard W. Jewry.[4] Cafodd ei merch, Sophie Jewry, niwed difrifol yn 2 mis oed wedi syrthio lawr y grisiau a thorri ei phenglog; fe wellodd o'i anafiadau yn ddiweddarach.[3]
Roedd ganddo ddau fab a ddau ferch,[5] ac un o rhieni bedydd yr ieuengaf oedd Cliff Richard.[6]
Ganwyd ei fab hynaf, Shaun Fenton, yn 1969.[7] Cofnodwyd ei enedigaeth yn Rhagfyr 1969 o dan yr enw Fenton.[8] Ei fab arall yw'r cynhyrchydd drum a bas, Adam F.
Ei drydedd gwraig oedd yr actores a choreograffydd o Abertawe, Julie Paton.[9] Prynodd y cwpl dŷ yn Abertawe, lle byddai Stardust yn byw pan ddim yn teithio. Dywedodd ei wraig ei fod yn teimlo fel hanner-Cymro wedi ei phriodi.[10]
Daeth ei farwolaeth wythnosau cyn yr oedd yn bwriadu rhyddhau ei albwm cyntaf ers 30 mlynedd, a chwe diwrnod ar ôl sioe yn Regal Cinema, Evesham.[11] Cafodd ddiagnosis o ganser y prostad 18 mis ynghynt.[12] Bu farw Stardust gartref wedi cyfnod o waeledd byr; cadarnhawyd hyn gan ei reolwr ar 23 Hydref 2014. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys St. Thomas, Abertawe, lle yr oedd wedi priodi Julie. Cafodd yr emyn Calon Lân ei ganu yn yr angladd gan Gantorion Gwalia.[11] Fe'i amlosgwyd yn Amlosgfa Treforys a gwasgarwyd ei lwch yn y gerddi.