Ama Ata Aidoo | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mawrth 1942 ![]() Abeadzi Kyiakor ![]() |
Bu farw | 31 Mai 2023 ![]() o clefyd ![]() Accra ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, dramodydd, gwleidydd ![]() |
Swydd | Minister for Education ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Our Sister Killjoy, Anowa, No Sweetness Here, Birds, The Dilemma of a Ghost, Changes: A Love Story, Diplomatic Pounds and Other Stories ![]() |
Plaid Wleidyddol | Provisional National Defence Council ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Ysgrifennwr y Gymanwlad ![]() |
Awdur, bardd, dramodydd ac academydd o Ghana oedd Christina Ama Ata Aidoo (23 Mawrth 1942 – 31 Mai 2023). [1][2]
Cafodd Ama Ata Aidoo ei geni yn Abeadzi Kyiakor, ger Saltpond, yn Rhanbarth Canolog Ghana. Mae rhai ffynonellau wedi datgan iddi gael ei geni ar 31 Mawrth 1940. [3][4] Roedd ganddi efaill, Kwame Ata.[5][6]
Cyhoeddwyd ei drama gyntaf, The Dilemma of a Ghost, ym 1965. Roedd Aidoo y dramodydd benywaidd Affricanaidd cyntaf i'w chyhoeddi.[7] Fel nofelydd, enillodd Wobr Awduron y Gymanwlad yn 1992 gyda'i nofel hi, Changes. Roedd hi'n Ysgrifennydd Addysg Ghana rhwng 1982 a 1983 o dan weinyddiaeth PNDC Jerry Rawlings . Yn 2000, sefydlodd Sefydliad Mbaasem yn Accra i cefnogi awduron benywaidd Affricanaidd. [8]