![]() | |
Math | art museum, sefydliad di-elw ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1876 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Philadelphia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 39.9658°N 75.1814°W ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth yr Adfywiad Groegaidd, pensaernïaeth Art Deco ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Anna H. Wilstach, William P. Wilstach ![]() |
Mae Amgueddfa Gelf Philadelphia, a gaiff ei adnabod yn lleol fel "Yr Amgueddfa Gelf", yn un o amgueddfeydd celf mwyaf yr Unol Daleithiau. Fe'i lleolir ar ochr orllewinol y Benjamin Franklin Parkway ym Mharc Fairmount Philadelphia. Sefydlwyd yr amgueddfa ym 1876 mewn cydweithrediad a'r Dangosiad Canmlwyddiant yn yr un flwyddyn. Yn wreiddiol, cafodd ei alw'n Amgueddfa ac Ysgol Pennsylvania o Gelf Diwydiannol a chafodd ei ysbrydoli gan Amgueddfa De Kensington yn Llundain, (bellach Amgueddfa Victoria ac Albert). Agorodd yr amgueddfa i'r cyhoedd ar y 10fed o Fai, 1877. Cwblhawyd prif adeilad presennol yr amgueddfa ym 1928.
Mae casgliad yr amgueddfa yn cynnwys gwaith Marcel Duchamp, Auguste Rodin, Paul Cézanne, Vincent van Gogh, Édouard Manet, Claude Monet, Pierre-Auguste Renoir, Camille Pissarro, ac Edgar Degas. Mae hefyd gwaith artistiaid o’r Unol Daleithiau, megis gwaith y Crynwyr ac Almaemwyr Pennsylvania.[1]
Yn ogystal â phensaernïaeth a'r casgliadau, mae Amgueddfa Gelf Philadelphia yn enwog am yr olygfa enwog yn y ffilm Rocky, a'r ffilmiau olynnol, II, III, V a Rocky Balboa. Yn aml, gwelir ymwelwyr i'r amgueddfa yn efelychu rhediad enwog Sylvester Stallone i fyny'r grisiau o flaen yr adeilad.
Rhoddwyd cerflun efydd o Rocky ar ben y grisiau am gyfnod byr tra'n ffilmio Rocky III. Yn ddiweddarach, fe'i symudwyd i'r Wachovia Spectrum yn sgîl yn dadlau brwd a welwyd ynglŷn ag ystyr "celf". Dychwelyd y cerflun i'r grisiau ar gyfer ffilmio Rocky V ac ymddengys yno yn y ffilmiau Philadelphia a Mannequin. Serch hynny, symudwyd y cerflun i waelod y grisiau ar 8 Medi 2006.
Oherwydd lleoliad yr amgueddfa, ar waelod y Ben Franklin Parkway, cynhelir nifer o gyngherddau a gorymdeithiau yno. Ar 2 Gorffennaf 2005 defnyddiwyd grisiau'r amgueddfa i gynnal cyngerdd Live 8 Philadelphia, lle perfformiodd artistiaid megis Dave Matthews Band, Linkin Park a Maroon 5. Caeodd yr amgueddfa ar gyfer Live 8 ond ail-agorodd y diwrnod canlynol.