Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Mathamgueddfa ranbarthol, amgueddfa awdurdod lleol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1972 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlys yr Esgob Edit this on Wikidata
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr12.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.865463°N 4.265764°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyngor Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCyngor Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata

Mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn amgueddfa sirol sy'n cofnodi hanes Sir Gaerfyrddin

Lleoliad

[golygu | golygu cod]

Mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin wedi ei lleoli yn Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JG. Fe'i rheolir gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Mae'r amgueddfa wedi ei gartrefu mewn adeilad a ddechreuodd fywyd fel coleg i offeiriaid, a sefydlwyd yn y 1280au, a ddaeth wedyn yn balas Esgob Tyddewi rhwng 1542 a 1974. Yma cyfieithwyd y Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Gyffredin gyntaf i'r Gymraeg ym 1567 yn ystod esgobaeth yr Esgob Richard Davies.[1]

Arddangosfeydd a chasgliadau

[golygu | golygu cod]

Mae'r amgueddfa'n adrodd hanes cyfoethog y sir trwy gasgliadau amrywiol o arteffactau, paentiadau a phortreadau. Yn ogystal, mae yma gasgliad nodedig o ddodrefn a gwisgoedd Cymreig, ystafell ysgol pentref o oes Fictoria, eitemau sy'n gysylltiedig â threftadaeth ffermio ac amaethyddol y sir ac arddangosfa am y ffrynt cartref yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r brif amgueddfa yn cynnwys 11 o orielau, gellid hefyd ymweld â bwthyn Elsa, sef bwthyn Cymreig traddodiadol, hen gegin y palas sy'n cynnwys arddangosfa o ddulliau gwledig o gynhyrchu bwyd, a chapel y palas sydd wedi'i gadw mewn cyflwr arbennig [2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyngor Sir Gar Theatrau, Celfyddydau, Amgueddfeydd
  2. "Gwefan swyddogol yr amgueddfa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-10. Cyrchwyd 2019-10-10.