Enghraifft o: | math o endid cemegol |
---|---|
Math | aminoglycoside, aminoglycoside antibiotic |
Màs | 585.286 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₂h₄₃n₅o₁₃ |
Enw WHO | Amikacin |
Clefydau i'w trin | Haint yn yr uwch-pibellau anadlu, clefyd heintus ar yr esgyrn, sepsis, endocarditis heintus, haint bacteria sy'n adweithio'n negyddol i brofion gram, pseudomonas infection, meningitis |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia d, categori beichiogrwydd unol daleithiau america d |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae amicacin yn wrthfiotic a ddefnyddir i drin nifer o heintiau bacteriol.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₂₂H₄₃N₅O₁₃. Gwrthfiotig yw amikacin ac fe'i defnyddir i drin amryw o heintiau bacteriol.[2] Gall y rheini gynnwys heintiau yn y cymalau, heintiau intra-abdomenol, llid yr ymennydd, niwmonia, sepsis, a heintiau ynghylch y llwybr wrinal. Fe'i defnyddir hefyd i drin y diciâu, cyflwr sy'n gwrthsefyll amryw o gyffuriau.[3] Rhoddir y gwrthfiotig naill ai drwy chwistrelliad i mewn i wythïen neu gyhyr.
Gall Amikacin, fel gwrthfiotigau aminoglycosid eraill, achosi rywun i golli ei clyw, arwain at broblemau balans a phroblemau ynghylch yr arennau. Mae sgil effeithiau eraill yn cynnwys paralys, sy'n arwain at anallu i anadlu. Os caiff ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd fe all arwain at fyddardod parhaol yn y baban. Gweithia Amikacin drwy rwystro swyddogaeth is-uned ribosomol 30S y bacteria, sy'n ei atal rhag gynhyrchu proteinau.
Rhoddwyd Amikacin oddi tan batent ym 1971 ac fe ddefnyddiwyd ar gyfer dibenion masnachol ym 1976.[4] Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.[5] Cost gyfanwerthol fisol y gwrthfiotig yn y byd datblygol yw 13.80 i 130.50 o ddoleri.[6] Yn yr Unol Daleithiau y mae rhaglen triniaeth gyffredin yn costio 25 i 50 o ddoleri.[7] Fe'i gwneir o ganamysin.
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Amicacin, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |