Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1904 |
Pencadlys | Dulyn |
Gwefan | http://www.camogie.ie/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd An Cumann Camógaíochta (Enw swyddogol yn Saesneg: Camogie Association; Cymraeg: Cymdeithas Camógaíocht) yn 1904. Márie Ní Chinnéide oedd Llywydd cyntaf y Gymdeithas yn 1905. Mae'r Gymdeithas Camógaíocht yn trefnu ac yn hyrwyddo gêm tîm draddodiadaol Wyddelig, camógaíocht (fersiwn benywaidd o'r gêm hyrli i ddynion), yn Iwerddon a ledled y byd. Ei henw llawn wreiddiol oedd, An Cumann Camógaíochta na nGael a newidwyd i'r fersiwn fyrrach, ac i gydnabod elfen ryngwladol y gamp ac y'i chwaraeir gan bobl nad sy'n Wyddelod, yn 2010.[1][2]
Mae gan y clwb gysylltiadau agos â'r Gymdeithas Athletau Gwyddelig (GAA).
Fe'i sefydlwyd ym 1904. Ym 1932, wyth mlynedd ar hugain ar ôl ffurfio'r Gymdeithas Camogie, chwaraewyd pencampwriaeth Iwerddon Oll am y tro cyntaf.[3]
Mae'r Gymdeithas Camógaíochta yn sefydliad cymunedol gwirfoddol sy'n hyrwyddo Gemau Gwyddelig, diwylliant a chyfranogiad gydol oes.
Mae'r Gymdeithas e yn fudiad gwirfoddol sy'n datblygu ac yn hyrwyddo Gemau Camogie gyda hunaniaeth a diwylliant Gwyddelig yn greiddiol iddo.
Maent wedi ymrwymo i sicrhau bod eu teulu o gemau, a'r gwerthoedd y maent yn byw yn cyfoethogi bywydau ei haelodau, teuluoedd a chymunedau.[4]
Sefydlwyd y Gymdeithas Camógaíocht ym mis Chwefror 1904. Máire Ní Chinnéide oedd llywydd cyntaf y Gymdeithas.[5] Yn 1911, fe'i hailsefydlwyd fel Cymdeithas Athletau Merched Gwyddelig mewn cyfarfod a drefnwyd gan Seaghán Ua Dúbhtaigh yn Sgwâr Parnell, Dulyn.
Chwaraewyd y gêm camógaíochta gyhoeddus gyntaf o dan y Gymdeithas rhwng Craobh an Keitinnigh a Cúchulainn yn Swydd Meath. Chwaraewyd y gêm ryng-sirol gyntaf ym 1912.
Ni chynhaliwyd y Bencampwriaeth Camógaíochta gyntaf tan 1932. Sefydlodd y Gymdeithas Camógaíochta Bencampwriaeth Iwerddon Oll. Dim ond deg sir oedd yn y bencampwriaeth gyntaf. Cyflwynwyd y tlws gan ddyn o Swydd Mayo o'r enw Sean O'Duffy, ac felly daeth y gystadleuaeth i gael ei hadnabod fel Tlws O'Duffy.
Enillodd Dulyn rownd derfynol Iwerddon Oll ac erbyn y flwyddyn honno roedd y gêm camógaíochta yn cael ei chwarae ym mhob un o'r tri deg dau o siroedd Iwerddon.
Erbyn 1934 chwaraewyd Pencampwriaeth Iwerddon Oll mewn camógaíochta ym Mharc Croke. Cryfhawyd y Gymdeithas ar hyd a lled y wlad ac erbyn 1974 cymerodd y Camógaíochta ran yn 'Gŵyl na nGael'. Sefydlwyd Cuman na mBunscoileanna yn 1977 a Sighle Nic an Ultaigh oedd Llywydd cyntaf y Cyngor. Mae'r Gymdeithas wedi cyflogi Cyfarwyddwr Cyffredinol ers 1980 ac mae ganddi swyddfa ym Mharc Croke. Mae'r Gymdeithas yn gysylltiedig â'r Gymdeithas Athletau Gwyddelig.[3]
Ym 1995 daeth Foras na Gaeilge a Bord na Gaeilge yn brif noddwyr cyntaf y Gymdeithas Camógaíochta.
Ym 1999 mabwysiadodd y Gymdeithas Camógaíochta reolau GAA [6] ynghylch strwythur y tîm pymtheg bob ochr a maint y cae.[7]
Mae tair cystadleuaeth wahanol o fewn Pencampwriaeth Iwerddon.
Ceir lefel uwch, lefel ganolradd a lefel iau.
Ar lefel sirol, mae’r deg tîm gorau’n cystadlu yn erbyn ei gilydd ym Mhencampwriaeth Iwerddon Oll, sy’n cyrraedd uchafbwynt yn Rownd Derfynol Iwerddon Oll ym Mharc Croke bob mis Medi. Yn 20121 bu 33,154 yn bresennol mewn ffeinal a chafodd ei darlledu'n fyw, gyda chynulleidfa deledu o dros 300,000 o bobl.[8]
Mae seremoni wobrwyo 'All-Stars' y Gymdeithas Camoign yn cael ei chynnal bob blwyddyn yng Ngwesty'r City West yn Nulyn.
Mae'r tîm 'All Star' sy'n cael ei ddewis bob blwyddyn yn mynd i Efrog Newydd ar daith 'All-Stars'.[9]
Arwyddair WGPA yw 'ar gyfer y chwaraewyr, gan y chwaraewr'.
Mae aelodau WGPA yn chwarae Pêl-droed Merched Gwyddelig a Camógaíocht, gemau brodorol i Iwerddon a'r chwaraeon mwyaf poblogaidd ymhlith merched Gwyddelig.
Lansiwyd WGPA yn 2015 i gynrychioli buddiannau chwaraewyr rhyng-sirol; yr athletwyr amatur sy'n chwarae ar y lefel uchaf o'r chwaraeon hyn.
Mae aelodaeth wedi cynyddu i dros 1,350 o chwaraewyr presennol.[10]
Cyfunwyd y WGPA â'r GPA (cymdeithas y dynion) mewn pleidlais hanesyddol ym mis Rhagfyr 2020.[11] GPA yw'r fersiwn gwrywaidd.[12]