Andreja Pejić | |
---|---|
Ganwyd | Andrej Pejic 28 Awst 1991 Tuzla |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model, actor |
Taldra | 188 centimetr |
Model deuryw o Awstralia a aned ym Mosnia-Hertsegofina yw Andreja Pejić (ganwyd 28 Awst 1991).[1] Yn sioeau ffasiwn Paris yn Ionawr 2011 modelodd ddillad dynion a menywod ar gyfer Jean-Paul Gaultier a dillad dynion ar gyfer Marc Jacobs.
Ym mis Mai 2011 ymddangosodd ar glawr y cylchgrawn Americanaidd Dossier Journal yn noeth ei brest, gan beri'r siopau llyfrau Barnes & Noble a Borders i guddio'r clawr. Enillodd safle 98 ar restr FHM o'r 100 o Fenywod Mwyaf Rhywiol y Byd, ond cafodd yr adroddiad am y digwyddiad hwn ei ddileu o wefan y cylchgrawn yn dilyn cyhuddiadau bod yr hyn a ysgrifennwyd amdani yn wrth-drawsrywedd.[2]