André Gunder Frank

André Gunder Frank
Ganwyd24 Chwefror 1929 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ebrill 2005 Edit this on Wikidata
Dinas Lwcsembwrg, Lwcsembwrg Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
Galwedigaetheconomegydd, llenor, cymdeithasegydd, academydd, hanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Amsterdam
  • Prifysgol Amsterdam
  • Prifysgol Amsterdam
  • Prifysgol Dwyrain Anglia
  • Prifysgol Tsile
  • Universidade de Brasília Edit this on Wikidata
TadLeonhard Frank Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://rrojasdatabank.info/agfrank/ Edit this on Wikidata

Economegydd a chymdeithasegydd Almaenig oedd André Gunder Frank (24 Chwefror 192923 Ebrill 2005).

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganed Andreas Frank ym Merlin. Nofelydd a heddychwr oedd ei dad. Fe'i danfonwyd i ysgol breswyl yn y Swistir yn 4 oed i osgoi gormes yn yr Almaen Natsïaidd. Aeth i'r Unol Daleithiau yn 1941 i ymuno â'i rieni yn Hollywood, Los Angeles, a mynychodd yr uwch-ysgol yno. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i Ann Arbor, Michigan. Cafodd ei wawdio yn yr ysgol am fod yn araf, a rhoddwyd yr enw "Gunder" iddo fel cyfeiriad at y rhedwr Swedaidd Gunder Hägg.[1]

Astudiodd economeg yng Ngholeg Swarthmore, Pennsylvania, a derbyniodd ei radd yno yn 1950. Mabwysiadodd daliadau Keynesaidd yn ystod ei gyfnod israddedig. Aeth i Brifysgol Chicago i gyflawni ei ddoethuriaeth, ac erbyn iddo orffen ei astudiaethau yn 1957 fe wrthwynebai syniadaeth ei diwtor, yr arianyddwr Milton Friedman. Trodd Frank yn erbyn theorïau Americanaidd ynghylch datblygiad economaidd, a dadleuodd o blaid gwella cydraddoldeb cymdeithasol a gwleidyddol cyn ennill effeithlonrwydd economaidd.[1]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Bu'n briod teirgwaith. Bu farw o ganser yn 76 oed.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Barry K. Gills, "Andre Gunder Frank", The Guardian (4 Mai 2005). Adalwyd ar 18 Ionawr 2019.