Angiosperm Phylogeny Group

Angiosperm Phylogeny Group
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1998 Edit this on Wikidata
Blagur Amborella trichopoda sy'n perthyn i un o'r llinachau hynaf o blanhigion blodeuol.

Grŵp rhyngwladol o fotanegwyr sy'n astudio tacsonomeg planhigion blodeuol (neu angiosbermau) yw'r Angiosperm Phylogeny Group neu APG. Mae'r grŵp wedi cynhyrchu tri fersiwn o'u system dosbarthiad: ym 1998, 2003 a 2009. Mae'r system yn seiliedig ar wybodaeth o ddilyniannau DNA gan fwyaf.

Ymddangosodd y fersiwn cyntaf o'r system ym 1998.[1] Rhannwyd y planhigion blodeuol yn 40 urdd a 462 o deuluoedd. Defnyddiwyd enwau anffurfiol Saesneg am y grwpiau uwch yn hytrach nag enwau botanegol ffurfiol.

APG II

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd yr ail fersiwn yn 2003.[2] Roedd ganddo 45 urdd a 457 o deuluoedd.

APG III

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd y trydydd fersiwn yn 2009.[3] Rhannwyd y planhigion blodeuol yn 59 urdd a 413 o deuluoedd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. The Angiosperm Phylogeny Group (1998) An ordinal classification for the families of flowering plants, Annals of the Missouri Botanical Garden, 85:531-553.
  2. Angiosperm Phylogeny Group (2003), An update of the Angiosperm Phylogeny Group classification for the orders and families of flowering plants: APG II, Botanical Journal of the Linnean Society 141 (4): 399-436.
  3. Angiosperm Phylogeny Group (2009), An update of the Angiosperm Phylogeny Group classification for the orders and families of flowering plants: APG III, Botanical Journal of the Linnean Society 161 (2): 105–121.