Angst

Angst
Enghraifft o'r canlynolemosiwn Edit this on Wikidata
Mathcyflwr meddwl Edit this on Wikidata
Angst
Erthygl am y term yw hon. Gweler hefyd Angst (gwahaniaethu). Am y cwmni recordiau gweler Ankst.

Term sy'n disgrifio cyflwr o anghydfod emosiynol mewnol cylchol dwys iawn sy'n peri pryder dirdynnol i'r unigolyn yw angst (Almaeneg: yn llythrennol, "braw, ofn, arswyd").

Bathwyd y term — ond nid y gair Almaeneg ei hun — gan yr athronydd Dirfodaethol Danaidd Kierkegaard (1813-1855) i ddisgrifio'r cyflwr o ofn parhaol ym mywyd unigolyn parthed ansicrwydd ffawd a'r hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol. Ateb Kierkegaard i broblem angst oedd dweud mai dim ond trwy gymryd naid o ffydd a derbyn bodolaeth Duw a sefydlu perthynas ag Ef y gall yr unigolyn gael sicrwydd yn ei fywyd a'i hunaniaeth fel person.

Yn athroniaeth yr Almaenwr Martin Heidegger (1889-1976), mae angst yn golygu pryder dwys ynglŷn â srwythr ac ystyr bywyd yr unigolyn sy ddim yn tarddu o unrhyw achos amlwg, penodol. Yn yr ystyr yma, mae'n derm sy'n ganolog i athroniaeth Dirfodaeth, e.e. yng ngwaith Jean-Paul Sartre (angoisse), ac fe ddaeth yn un o gysyniadau amlycaf meddwl a dychymyg yr 20g yn y Gorllewin.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Angst
yn Wiciadur.