Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | anhwylder motor, anhwylder datblygiadol penodol, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Anhwylder niwrolegol cronig sy'n dechrau mewn plentyndod yw anhwylder cydsymud datblygiadol,[1][2][3][4][5] hefyd yn cael ei adnabod fel dyspracsia datblygiadol neu dyspracsia.[6][7][8][9] Mae'n effeithio ar symud a chydsymud corfforol wrth i negeseuon yr ymenydd beidio a chael eu trosglwyddo'n gywir i'r corff.[10]
Mae'r anhwylder yn cael ei diagnosio ar ôl cadarnhau nad oes anhwylderau neu glefydau eraill gan y claf, fel parlys yr ymenydd,[11] nychdod cyhyrol, sclerosis ymledol , neu glefyd Parkinson. Yn ôl CanChild yng Nghanada, mae'r anhwylder hwn yn effeithio ar 5 i 6 y cant o plant oedran ysgol yno;[12] ond mae'r anhwylder hwn yn datblygu wrth symud gydag oed, ac felly yn gyflwr gydol oes.[13]
Gall amryw agweddau o ddatblygiad gael eu heffeithio gan anhwylder cydsymud datblygiadol, ac nid oes gwellhad ohono. Mae hefyd yn gallu effeithio ar y cof yn ogystal ag achosi diffygion corfforol a phroblemau gyda'r lleferydd. Er hynny, mae gan nifer o bobl sy'n byw gyda'r anhwylder gof tymor-hir rhagorol.